Mae Ken Skates Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cyhoeddi Cadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC).
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC) i roi cyngor annibynnol, yn seiliedig ar well gwybodaeth, ar strategaeth fwy hirdymor ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith a fydd yn ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae wedi ei sefydlu fel corff cynghori anstatudol i roi cyngor ac argymhellion i Weinidogion Cymru ar anghenion economaidd ac amgylcheddol Cymru dros bum i 30 mlynedd. Bydd y Comisiwn hefyd yn ystyried y cysylltiadau rhwng yr anghenion hynny a 'seilwaith cymdeithasol'; megis ysgolion, ysbytai a thai.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
"Mae safon yr ymgeiswyr am y swydd hon drwy'r broses benodi gyhoeddus yn uchel, ac rwyf am ddiolch i bawb gymerodd yr amser i gynnig eu henwau. Rwyf wedi penderfynu penodi Cadeirydd dros dro am flwyddyn i ganolbwyntio ar sefydlu'r Comisiwn yn ei gyfnod cychwynnol.
"Mae gan Mr Jones gymwysterau gwych ac mae'n cynnig sefydlogrwydd a dibynadwyedd wrth imi asesu y sgiliau a'r wybodaeth bwysicaf ar gyfer y Comisiwn yn y tymor hwyr. Mae'n Gadeirydd profiadol, gyda gwybodaetheang ac amrywiol o'r sector cyhoeddus a phreifat ac, yn hanfodol, mae ganddo'r gallu a'r sgiliau i greu bwrdd a sicrhau ei fod yn gweitho'n gyflym. Mae gan Mr Jones hanes o fod yn arweinydd ac rwy'n hyderus y bydd yn gallu sefydlu comisiwn sy'n gallu asesu anghenion seilwaith yn llwyddiannus a llunio ein strategaeth buddsoddi yn yr hirdymor."