Yr wythnos hon, mae Ken Skates ar yr Arfordir Aur, i gefnogi Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad ac i hyrwyddo Cymru fel gwlad arbennig i ymweld â hi ac i drafod busnes ynddi.
Daw ei ymweliad fis cyn i’r hediadau dyddiol ddechrau rhwng Caerdydd a Doha, a fydd yn arwain y ffordd ar gyfer creu rhagor o gysylltiadau busnes rhwng Cymru, y Dwyrain Canol, Asia ac Awstralasia.
Gemau’r Gymanwlad yw’r unig ddigwyddiad elitaidd amlddisgyblaethol lle y mae athletwyr o Gymru yn gallu cystadlu o dan faner y Ddraig Goch.
Bydd Ken Skates yng Ngemau 2018 i gefnogi’r 223 o athletwyr o Gymru, sy’n cystadlu ac yn cynrychioli eu gwlad mewn ystod eang o gampau gan gynnwys nofio, deifio, athletau, bocsio, seiclo, gymnasteg, hoci, bowls lawnt, rygbi, saethu, sboncen, tennis bwrdd, triathlon, codi pwysau a 5 camp y para-chwaraeon.
Bydd Ysgrifennydd yr Economi yn bresennol yn seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad, ac yn ymuno â chynrychiolwyr Llywodraethau eraill y Gymanwlad ac unigolion o fyd busnes, y byd academaidd a chwaraeon mewn digwyddiad i edrych ar werth chwaraeon a’u pŵer a’u dylanwad y tu hwnt i’r maes chwarae.
Bydd hefyd yn cynrychioli Cymru mewn digwyddiadau busnes, gyda’r nod o wneud y mwyaf o’r cyfleoedd masnachu rhwng gwledydd y Gymanwlad a’r Arfordir Aur.
Yn ddiweddarach yn yr wythnos, bydd yn teithio i Sydney i gwrdd â Chyngor Gweithredwyr Teithiau Awstralia ac yn bresennol mewn digwyddiad busnes gyda Siambr Fasnach Prydain Awstralia a chwmni Qatar Airways, cyn dychwelyd i’r Gemau.
Dywedodd Ken Skates:
“Mae chwaraeon yn rhan enfawr o’n diwylliant ni ac mae Gemau’r Gymanwlad yn gyfle unigryw i Gymru gystadlu fel gwlad mewn digwyddiad chwaraeon o safon fyd-eang.
“Dyma gyfle euraid i Gymru a’i 223 o athletwyr sydd wedi gweithio’n galed iawn i gyrraedd yma, gyda chymorth Gemau’r Gymanwlad Cymru a Thîm Cymru. Rwy’n falch iawn o gael bod yma i gefnogi tîm Cymru wrth iddynt brofi eu hunain yn erbyn goreuon y byd.
“Bydd Gemau’r Arfordir Aur, a’r hediadau newydd gan Quatar Airways rhwng Caerdydd a Doha, sy’n dechrau fis nesaf, yn gyfle gwych i ehangu ein cysylltiadau â’r Dwyrain Canol, Asia ac Awstralasia – ac wrth gwrs, mae’r cysylltiadau hyn yn bwysicach nag erioed wrth i ni baratoi i adael yr UE.
“Gan gadw hyn mewn cof, byddaf yn canolbwyntio ar sicrhau sylw i Gymru, gan gryfhau partneriaethau a chysylltiadau, a hyrwyddo Cymru fel man arbennig i sefydlu busnes, partner masnachu heb ei ail, lleoliad arbennig ar gyfer cymryd gwyliau a lleoliad da i astudio."