Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths yn ymweld a Nant-y-caws heddiw i weld â’i llygaid ei hunan y gwaith sy’n cael ei wneud i gyfyngu ar effeithiau’r olew sydd wedi gollwng yn yr ardal.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd Ysgrifennydd y Cabinet gyfarfod ag Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru a chyfle i ddiolch i staff CNC yn y ganolfan reoli yng Nghross Hands am eu gwaith yn trefnu’r ymateb, cyn cwrdd ag uwch swyddogion a chontractwyr cwmni Valero.

Wrth siarad yn Nant-y-caws, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, 

“Dyma achos difrifol o lygredd.  Rydyn ni’n credu bod 140,000 litr o gerosin wedi gollwng.  Mae’n dda clywed felly bod dwy ran o dair ohono wedi’i gasglu’n llwyddiannus o’r nant gerllaw a bod y bibell wedi’i diffodd.

"Mae’r gwaith monitro’n parhau a gallaf sicrhau’r cyhoedd nad yw yw’r gwaith hwnnw’n dangos bod perygl i iechyd nac i’r cyflenwad dŵr cyhoeddus.  Mae ymateb cyflym CNC heb os wedi lleihau effaith y digwyddiad ar y gymuned leol a’r byd natur o gwmpas.

“Bydda i’n derbyn adroddiadau rheolaidd ar y sefyllfa."

Er mwyn medru trwsio’r twll yn y biblinell, bydd angen cau’r A48 i’r ddau gyfeiriad o nos Wener, 14 Hydref tan ben bore ddydd Llun, 17 Hydref 2016.  Caiff yr holl draffig ei ailgyfeirio ar hyd y dargyfeiriad swyddogol trwy Langynnwr.