Neidio i'r prif gynnwy

“Unwaith eto mae'n ymddangos bod ideoleg yn gyrru meddylfryd y DU yn hytrach na sicrhau bod gennym gymysgedd ddigonol o dechnolegau carbon isel fforddiadwy yn awr, ac yn y dyfodol.”

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ymateb i gyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ar eu cyllid ‘Contracts for Difference’ nesaf, dywedodd yr Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddatgarboneiddio ein sector ynni. Fodd bynnag, unwaith eto heddiw, mae Llywodraeth y DU wedi ymddwyn yn unochrog ac o’r herwydd yn bygwth swyddi a buddsoddiad yng Nghymru drwy ei gyhoeddiad heddiw ynghylch cyllid ‘Contracts for Difference’ ar gyfer trydan adnewyddadwy.

“Mae gan Gymru gyfle i arwain o ran defnyddio ynni morol ond mae'r cyhoeddiad hwn yn bygwth y cyfle i ddatblygu dyfeisiau ynni morol arloesol i ddarparu ynni carbon isel glân ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Yr ydym yn edrych i Lywodraeth y DU i amlinellu'n gyflym pa gymorth bydd yn cael ei gynnid i gefnogi'r sector arloesol a newydd hwn.

“Unwaith eto mae'n ymddangos bod ideoleg yn gyrru meddylfryd y DU yn hytrach na sicrhau bod gennym gymysgedd ddigonol o dechnolegau carbon isel fforddiadwy yn awr, ac yn y dyfodol.”