Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, yn cadeirio ei gyfarfod cyntaf o Dasglu Tata Steel heddiw (Dydd Iau, 4 Awst).

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Sefydlwyd y Tasglu yn gynharach eleni gan ragflaenydd Mr Skates, sef Gweinidog yr Economi ar y pryd Edwina Hart. Y nod oedd cefnogi’r bobl y byddai’r bwriad i werthu safleoedd Tata ar draws Cymru wedi effeithio arnynt.  

Mae’n cynnwys cynrychiolwyr o undebau llafur, awdurdodau lleol, y sector busnes, addysg, iechyd, Gyrfa Cymru a chyrff eraill sy’n cynnig cyngor ar yrfaoedd a swyddi. Cyfarfod heddiw fydd chweched cyfarfod y Tasglu.  

Wrth siarad cyn y cyfarfod ym Mae Caerdydd dywedodd Ken Skates: 

“Mae’n gyfnod allweddol ac anodd iawn i ddiwydiant dur Cymru o hyd. Rwyf wedi ymweld â’r rhan fwyaf o safleoedd dur Cymru ers dechrau yn fy swydd newydd. Ymwelais â safleoedd yn Shotton, Llanelli, Casnewydd a Phort Talbot yr wythnos ddiwethaf. 

“Hwn fydd cyfarfod cyntaf y Tasglu ers y bleidlais o blaid gadael yr UE. Ers cyhoeddi’r canlyniad rydym wedi mynd ati i bwysleisio i weddill y byd fod Cymru ar agor i fusnes. Heb unrhyw amheuaeth mae ein diwydiant dur yn rhan allweddol o’r busnes hwn. 

“Mae’r penderfyniadau y mae Tata wrthi’n eu hystyried yn rhai masnachol a’u penderfyniadau hwy ydynt. Eto i gyd, rwy’n benderfynol o sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n gwneud popeth posibl er mwyn dylanwadu ar eu penderfyniadau, gan sicrhau’r dyfodol gorau posibl ar gyfer ein diwydiant dur a’n gweithwyr.  

“Mae’r Llywodraeth hon yn awyddus i wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau dyfodol hirdymor a chynaliadwy ar gyfer y diwydiant dur a’i safleoedd yng Nghymru. Byddwn yn parhau i ddefnyddio pob adnodd posibl ar gyfer cyflawni’r nod hwn, gan gynnwys cydweithio’n agos ac mewn modd adeiladol â Llywodraeth y DU.  

“Mae’r diwydiant yn galw’n gyson am gyfle teg i gystadlu yn erbyn ei gymheiriaid rhyngwladol, ac mae hynny’n golygu prisiau ynni mwy teg. Mater i Lywodraeth y DU yw hwn a byddem yn gofyn iddynt eto gymryd camau ar unwaith i liniaru effeithiau prisiau ynni uchel ar ddiwydiannau sy’n gwneud defnydd helaeth ohono. Mae gwir angen y gefnogaeth hon ar ein diwydiant dur a byddai’n sicr yn creu hyder o’r newydd.”