Mynd i'r afael â llygredd nitradau o amaethyddiaeth a gwella ansawdd dŵr ar lefel Cymru gyfan.
Ar ôl yr ymgynghoriad helaeth ar Barthau Perygl Nitradau llynedd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai'n dechrau gweithio gyda phartneriaid dros y misoedd i ddod i gael hyd i'r cydbwysedd cywir o ran rheoliadau, mesurau gwirfoddol a buddsoddiad.
Byddai hynny'n cynnwys ymchwilio ymhellach i opsiynau i roi hyblygrwydd i reolwyr tir, os gallan nhw esgor ar yr un canlyniadau neu ganlyniadau gwell na'r trywydd rheoliadau.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:"Mae dŵr glân pur yn hanfodol i iechyd a lles pobl yn ogystal ag i ecosystemau naturiol a datblygu economaidd. Er bod nitrogen yn hanfodol i helpu planhigion a chnydau i dyfu, mae gormod ohono'n gallu bod yn niweidiol. Mae nitradau o weithgareddau ffermio yn ffynhonnell fawr o lygredd dŵr.
"Mynegwyd llawer iawn o ddiddordeb yn ein hymgynghoriad ar Barthau Perygl Nitradau, gan adlewyrchu pwysigrwydd ansawdd dŵr i Gymru fel gwlad.
"Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr yn deall bod llygredd nitradau yn cael effaith arwyddocaol ar ein dyfroedd, busnesau ac ar les pobl a'r amgylchedd ym mhob rhan o Gymru a chytunwyd bod angen cymryd camau pellach.
"Mae diffyg rheolaeth ar faethynnau'n para'n broblem fawr ledled Cymru. Mae modd osgoi llygredd o'r math hwn ac mae'n gwbl annerbyniol yn yr 21ain ganrif.
"Ni ddylem ar ddiwedd 2017 weld darnau hir o rai o'n hafonydd mwyaf adnabyddus a phoblogaeth yn hesb i raddau helaeth o bysgod. Mae llawer o waith eto i'w wneud. "Mae angen mwy o waith i amddiffyn dyfroedd Cymru rhag llygredd amaethyddol a dyna pam yr wy'n ystyried mynd i'r afael â llygredd nitradau o amaethyddiaeth ar lefel Cymru gyfan. "Dros y misoedd i ddod, rwyf am weithio mewn partneriaeth â'n rhanddeiliaid i gael hyd i'r cydbwysedd cywir o ran rheoliadau, mesurau gwirfoddol a buddsoddiad. Rwyf hefyd am ymchwilio ymhellach i opsiynau i roi hyblygrwydd i reolwyr tir, os gallan nhw esgor ar yr un canlyniadau neu ganlyniadau gwell na'r rheoliadau."Mae gennym beth o gefn gwlad a darnau o afonydd gyda'r hyfrytaf yn Ewrop ac mae dyletswydd arnon ni i'w diogelu a'u cyfoethogi. Bydd y ffordd newydd hon o weithio'n ein helpu i daro'r nod a sicrhau bod cenedlaethau heddiw ac yfory'n cael parhau i elwa ar ein hadnoddau naturiol."