Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, wedi ymweld â Wrecsam i glywed am y cynnydd y mae'r awdurdod lleol wedi'i wneud wrth iddynt lansio eu hymgynghoriad ar ffyrdd 20mya a allai newid yn ôl i 30mya.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cyngor Wrecsam wedi asesu'r ffyrdd 20mya a awgrymir i'w hadolygu i weld pa rai sy'n gymwys i gael eu hystyried ar gyfer newid a bydd nawr yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o'r broses Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO). Mae'r ymgynghoriad yn dechrau heddiw (ddydd Gwener, 13 Rhagfyr).

Cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet â'r Cynghorydd Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd ar Ffordd Caer, un o'r 52 ffordd yn Wrecsam y bwriedir eu newid, i siarad am y broses o adolygu'r cyfyngiadau cyflymder o 20mya ar ffyrdd yn yr ardal a gweld y rhan o'r ffordd y bwriedir mynd yn ôl i 30mya.

Mae awdurdodau lleol bellach wrthi'n adolygu adborth gan bobl, busnesau a chymunedau ledled Cymru i sicrhau bod 20mya wedi'i dargedu ar y ffyrdd cywir. Daw hyn yn dilyn cyhoeddi canllawiau diwygiedig gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf i'w cefnogi.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:

"Rwy'n falch o weld Cynghorau'n gwrando ar farn pobl ac yn gwneud cynnydd o ran adolygu'r ffyrdd yn eu hardaloedd y maen nhw'n credu y gellid eu newid yn ddiogel yn ôl i 30mya. Sir y Fflint yw'r awdurdod lleol cyntaf i ddechrau'r broses statudol i wneud newidiadau ar lefel leol a bydd mwy o Awdurdodau Lleol yn dilyn yn ystod yr wythnosau nesaf.

"Hoffem ddiolch i Fwrdeistref Sirol Wrecsam ac awdurdodau ledled Cymru am eu gwaith caled a'u hymroddiad.

"Prif amcan y polisi yw achub bywydau a lleihau nifer y bobl sy'n cael eu hanafu – ac mae tystiolaeth eang ei fod yn gwneud hynny, fodd bynnag, mae hyn yn ymwneud â chael y cyflymderau cywir ar y ffyrdd cywir, gan adeiladu o'r consensws eang mai 20mya sy'n iawn lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn chwarae."

Croesawodd y Cynghorydd David A Bithell y cyfle i drafod gweithredu'r adolygiad o 20mya gydag Ysgrifennydd y Cabinet:

"Mae Cyngor Wrecsam wedi cael adborth cadarnhaol i ddychwelyd dros 50 o ffyrdd yn ôl i 30mya, yn amodol ar ymgynghoriad statudol. Byddwn yn dechrau'r broses honno yn ddiweddarach yr wythnos hon.

"Rwyf hefyd yn croesawu ymgysylltiad Llywodraeth Cymru ac yn arbennig Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, Ken Skates, i drafod â'r cyhoedd ac Aelodau Etholedig i fynd i'r afael â phryderon a godwyd."