Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, wedi ymweld â phrosiect Invisible Walls yng Ngharchar y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr i weld pa effaith mae'r prosiect yn ei chael ar y rhai sy'n cymryd rhan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod y prosiect yw atal carcharorion rhag aildroseddu, drwy eu helpu i gryfhau cysylltiadau teuluol a meithrin perthnasau teuluol iach yn ogystal â rhoi cyngor iddynt ar faterion fel dyledion, tai, hyfforddiant a chyflogaeth.

Darperir gwasanaethau cymorth i garcharorion a'u teuluoedd gan weithwyr ymyriad teuluol yn y carchar, a thimau sy'n gweithio yn y gymuned. 

Mae cymorth yn cael ei roi i'r troseddwyr a'u teuluoedd am 12 mis cyn iddynt gael eu rhyddhau o'r carchar, ac am gyfnod o hyd at 6 mis ar ôl iddynt gael eu rhyddhau i'r gymuned.

Yn dilyn ei ymweliad, dywedodd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau, Carl Sargeant: 

"Mae'n bleser gen i weld bod y prosiect hwn yn cael effaith gadarnhaol ar garcharorion a'u teuluoedd. Mae tystiolaeth yn dangos gostyngiad sylweddol yn nifer y troseddwyr sy'n camddefnyddio sylweddau pan fônt yn gadael y carchar, a bod nifer ohonynt yn dod o hyd i swyddi ac yn byw mewn llety gwell. 

"Mae gweithio gyda'r uned deuluol gyfan yn ffordd hynod effeithiol o leihau'r niferoedd sy'n aildroseddu. Mae hefyd yn sicrhau gwell canlyniadau i blant sy'n ei chael hi'n anodd goresgyn yr anawsterau a wynebant pan fo rhiant yn mynd i'r carchar."