Neidio i'r prif gynnwy

Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn Rhisga heddiw er mwyn gweld y cynllun gwerth £2.4 miliwn ar gyfer atal llifogydd sydd wedi’i gwblhau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Cafodd y cynllun atal llifogydd, sy’n rhedeg ar hyd yr Afon Ebwy drwy Rhisga, ei gyllido gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a bydd yn lleihau perygl llifogydd i 278 eiddo.  

Mae ymweliad Ysgrifennydd y Cabinet yn cyd-daro â chyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd £33 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol yn cael ei neilltuo ar gyfer cynlluniau atal llifogydd ar draws Cymru. 

Bydd y cyllid yn hwb i waith Llywodraeth Cymru â Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdodau Lleol ar gynlluniau rheoli perygl llifogydd  ag iddynt flaenoriaeth dros y pedair blynedd nesaf. Mae hyn yn ychwanegol at y cynllun blaengar i reoli perygl arfordirol gwerth £150m a fydd yn cychwyn yn 2018.  

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

“Pleser yw ymweld â Rhisga a gweld y cynllun pwysig hwn wedi’i gwblhau. Yn gynharach eleni gwnaethom addo y byddem yn buddsoddi rhagor o arian mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd ar draws Cymru er mwyn amddiffyn cartrefi, busnesau a modurwyr, a hynny’n ychwanegol at y £240 miliwn ar gyfer gwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol gydol oes y Llywodraeth ddiwethaf. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cadw at yr addewid hwn.” 

Mae llifogydd wedi bod yn broblem yn Rhisga ers blynyddoedd lawer. Cafodd y rhan fwyaf o’r amddiffynfeydd eu hadeiladu yn yr 1980au a gwelwyd gwendidau ynddynt wrth iddynt gael eu hasesu. Mae argloddiau newydd ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd wedi’u hadeiladu ac mae’r amddiffynfeydd presennol wedi’u codi a’u sefydlogi.  

Mae’r cynllun wedi cyflawni manteision ychwanegol ar gyfer yr ardal, gan gynnwys gwaith plannu coed a gwell cyfleusterau hamdden a mynediad.  

Cyfoeth Naturiol Cymru fu’n gyfrifol am gyflenwi’r cynllun.