Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, roedd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, wedi cael blas ar fywyd rhywun sy’n gwerthu The Big Issue ar strydoedd Caerdydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Treuliodd Ysgrifennydd y Cabinet awr yn gwerthu The Big Issue y tu allan i Costa ar Stryd y Frenhines, tra bu Bethan Jenkins AC, a oedd wedi'i wahodd i gymryd rhan yn yr her, yn gwerthu'r cylchgrawn tu allan i Burger King.

Mae'r gwerthwyr yn prynu cylchgrawn The Big Issue am £1.25 ac yn ei werthu am £2.50 – sy’n golygu bod pob gwerthwr yn 'ficro-entrepreneur' sy'n gweithio, ac nid rhywun sy'n cardota. Ers 1991, mae'r cylchgrawn wedi helpu dros 92,000 o werthwyr i ennill £115 miliwn. Ar hyn o bryd, mae tua 1500 o werthwyr ar hyd a lled y Deyrnas Unedig (DU), a oedd wedi ennill cyfanswm o £5.5 miliwn y llynedd. Amcangyfrifir bod y cylchgrawn yn cael ei ddarllen ar hyn o bryd gan 379,195 o bobl ar hyd a lled y DU, a bod 82,294 o gopïau'n cael eu dosbarthu bob wythnos.

Yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, cafodd cyllid ychwanegol o £20 miliwn ei gyhoeddi i helpu i fynd i'r afael â digartrefedd a chysgu ar y stryd ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol nesaf. Mae hynny'n dilyn y cyhoeddiad diweddar ynglŷn â chyllid ychwanegol o £2.6 miliwn i ymdrin â'r broblem yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Dywedodd Mr Sargeant:

"Mae gwerthu The Big Issue wedi bod yn brofiad diddorol a gwerthfawr iawn. Mae wedi cynnig cipolwg imi ddeall yr heriau y mae'r gwerthwyr yn eu hwynebu, yn ogystal â phrofi caredigrwydd y cyhoedd. Mae'r cylchgrawn wedi rhoi'r cyfle i werthwyr newid eu bywydau a symud oddi ar y strydoedd.

"Mae digartrefedd yn gallu cael effaith ddinistriol ar fywydau pobl. Mae'n flaenoriaeth i'r llywodraeth hon fynd i'r afael â'r mater. Dyna pam rydyn ni wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol o £20 miliwn i ymdrin â'r mater dros y ddwy flynedd nesaf, ac wedi diogelu cyllideb Cefnogi Pobl – sy’n chwarae rôl bwysig iawn mewn atal digartrefedd a helpu pobl sy'n cysgu ar y strydoedd i symud oddi ar y strydoedd."