Neidio i'r prif gynnwy

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i wneud safiad yn erbyn anghydraddoldeb, trais a cham-drin dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau Carl Sargeant wrth Aelodau Cynulliad heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth arwain dadl yn y Senedd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

“Cynhaliwyd Diwrnod Rhyngwladol cyntaf y Menywod dros 100 mlynedd yn ôl. Ers hynny mae wedi tyfu i fod yn ddigwyddiad ar lefel fyd-eang. Dyma ddiwrnod i ddathlu’r hyn sy’n cael ei gyflawni gan ferched a menywod beth bynnag yw eu cenedl, ethnigrwydd, iaith, diwylliant, cyfoeth neu wleidyddiaeth. Mae’n enghraifft wych o’r modd y gall pobl ddod ynghyd, fel un, i gefnogi’r un achos.

“Bydd tynnu sylw at anghydraddoldeb a chyflwyno tystiolaeth gref sy’n dangos sut mae menywod yn cael eu trin yn annheg o hyd yn sicr o hyrwyddo newid ystyrlon mewn agweddau. Mae’n ddyletswydd ar ddynion i wneud safiad yn erbyn anghydraddoldeb, trais a cham-drin. Mae angen Diwrnod Rhyngwladol y Menywod arnon ni oherwydd dydy’r brwydrau hynny ddim wedi’u hennill eto. Hyd nes y daw’r amser hwnnw, rydw i’n falch cael sefyll ochr yn ochr â’r rheini sy’n tynnu sylw at y bobl hynny sy’n cam-drin, sy’n camwahaniaethu yn erbyn menywod ar sail rhyw ac yn eu difenwi – pwy bynnag ydyn nhw a ble bynnag y byddan nhw’n pedlera’u casineb gwenwynig at fenywod.”

Thema’r Diwrnod Rhyngwladol i Fenywod yng Nghymru eleni yw ‘Creu Dyfodol Cydradd’ ac fe wnaeth  Ysgrifennydd y Cabinet dynnu sylw at y camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i wella bywydau merched a menywod a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt ledled Cymru ac i greu dyfodol cydradd iddyn nhw.

Dywedodd:

“Mae Creu Dyfodol Cydradd yn adleisio’n dda amcanion ac ymrwymiadau Llywodraeth Cymru. O fynd i’r afael â thlodi, sicrhau bod cylch ehangach o bobl yn gwneud penderfyniadau mewn bywyd cyhoeddus, lleihau’r bwlch mewn cyflogau, cynorthwyo menywod i fynd yn ôl i weithio ar ôl cael plant a thaclo trais a cham-drin, mae ein Hamcanion Cydraddoldeb yn sicrhau bod y gwaith yn canolbwyntio ar yr agweddau hynny sy’n effeithio mewn modd anghyfartal ar fenywod a grwpiau eraill sy’n cael eu hamddiffyn.

“Rhaid i ni gydnabod pwysigrwydd cael dynion i chwarae eu rhan wrth weithio tuag at gydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae gennym oll ran i’w chwarae. Heb ddynion i ymrwymo i gydweithio â ni a bod yn bartneriaid i’n cefnogi ni yn yr ymgyrch hon sy’n cael ei harwain gan fenywod, ni welwn newid gwirioneddol. Mae effaith bositif cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn dda i bob un ohonon ni, ein teuluoedd ac i gymdeithas gyfan.

“Rhaid i ni hefyd sefyll yn gadarn yn erbyn cam-drin domestig a mathau eraill o drais yn erbyn menywod all gael canlyniadau andwyol a phellgyrhaeddol. Yr allwedd yw newid agweddau a chael y neges drosodd fod ymddygiad treisgar yn annerbyniol o dan unrhyw amgylchiadau ac na chaiff ei oddef yn ein cymdeithas.

“Dyma ddiwrnod i ddathlu llwyddiannau menywod. Dydyn ni ddim am laesu dwylo serch hynny – mae mwy i’w wneud cyn y gallwn honni ein bod wedi ‘creu dyfodol cydradd’. Ond mae gan Gymru lawer i fod yn falch ohono ac rydyn ni’n sefyll yn gadarn o blaid cefnogi menywod a merched i anelu’n uchel ac i gyflawni.”