Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer y tair blynedd nesaf i Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yng Nghastell Caernarfon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yw’r gatrawd Gymreig hynaf, ac mae ganddi un o’r casgliadau treftadaeth filwrol mwyaf a phwysicaf y tu allan i Amgueddfa Genedlaethol y Fyddin yn Llundain.


Mae’r cyllid yn sicrhau y bydd yr Amgueddfa, sydd yn Nhŵr y Siambrlen a Thŵr y Frenhines yn y Castell, yn aros ar agor tan o leiaf 2020.


 Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

“Rwy’n falch o gymeradwyo’r cyllid hwn a fydd yn sicrhau y gall yr Amgueddfa aros ar agor tan 2020. 

Bydd yn golygu y gall ymwelwyr â’r castell barhau i fwynhau holl gynnwys yr Amgueddfa a dysgu am hanes hir y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig drwy gyfrwng y llythyrau, y cerddi, y ffotograffau a’r eitemau eraill sydd i’w gweld.

“Mae’r  Amgueddfa wedi bod yn darparu gwasanaeth gwerthfawr iawn ers y 1960au ac rwy wrth fy modd bod y cyllid hwn yn sicrhau y bydd y gwasanaeth hwn yn parhau tan y degawd nesaf a thu hwnt.” 

Bydd grant gan Lywodraeth Cymru o £270,000 dros 3 blynedd yn sicrhau y bydd Ymddiriedolaeth Casgliadau’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn parhau i ddarparu amgueddfa achrededig sydd ar agor i’r cyhoedd, amrywiaeth o weithgareddau cyhoeddus a chyfleoedd dysgu gydol oes, yn ogystal â phethau eraill.

Dywedodd y Cyrnol Peter Knox, Cadeirydd Pwyllgor Rheoli Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig: 

“Mae ymddiriedolwyr y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn croesawu’r cyhoeddiad hwn ac yn gwerthfawrogi ein perthynas hir â Cadw a Llywodraeth Cymru".