Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwasanaeth gofal plant newydd yn Aberhonddu wedi ei agor yn swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r gwasanaeth cyn-ysgol yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Priordy yn un o bum lleoliad newydd Dechrau'n Deg ar draws Powys. 

Dechrau'n Deg yw rhaglen blynyddoedd cynnar Llywodraeth Cymru sy’n targedu teuluoedd â phlant dan bedair oed yn byw sy’n rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Mae'n darparu gofal plant rhan-amser i blant 2-3 oed, yn rhad ac am ddim; gwasanaeth ehangach gan ymwelwyr iechyd; cefnogaeth wrth fagu plant a chymorth ym meysydd lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Dywedodd Carl Sargeant: 

"Dw i'n falch iawn o agor gwasanaeth cyn-ysgol y Priordy yn swyddogol ac i gyfarfod rhai o'r staff, y rhieni a'r plant. Mae wedi bod yn arbennig o dda clywed am y gwahaniaeth mawr y mae Dechrau'n Deg a rhaglenni eraill yn ei wneud i fywydau plant a theuluoedd sy'n byw yn Aberhonddu.

"Cafodd Powys grant refeniw o dros £1.8 miliwn eleni a dw i wedi diogelu'r lefelau ariannu ar gyfer y flwyddyn nesaf i'n galluogi ni i gynnal y gwasanaeth. Ers 2012, mae Powys hefyd wedi elwa ar bron i £200,000 o gyllid cyfalaf sydd wedi helpu i greu pum lleoliad gofal plant newydd ar draws ardaloedd Dechrau'n Deg y sir.

"Dw i'n llongyfarch ac yn diolch i bawb a fu'n rhan o wneud hyn yn llwyddiant a sicrhau bod plant a theuluoedd yn parhau i gael gwasanaethau fel hyn yn ystod y cyfnod heriol hwn."