Aeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ymweld heddiw â Phrosiect George Street yng Nghasnewydd i ddysgu mwy am y gwasanaeth ‘Symud i Mewn’ sy’n cael ei redeg gan Solas Cymru.
Mae’r prosiect sydd wedi’i ariannu ar y cyd gan Grant Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru a Gwasanaethau Plant Casnewydd yn cefnogi pobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth ac sy’n gadael unedau preswyl neu unedau diogel. Caiff y staff eu hyfforddi i ymdrin â phobl mewn modd therapiwtig ac i adeiladu ar gryfderau pob unigolyn. Gwelodd y gwasanaeth gynnydd mawr yn nifer y bobl ifanc sydd wedi cael hyfforddiant neu waith a thai drwy drefniant mwy hirdymor.
Fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet gyfarfod rhai pobl ifanc sy’n byw yn George Street a hefyd y staff sydd wedi bod yn eu cefnogi.
Dywedodd:
“Mae prosiect George Street wedi creu cryn argraff arna i yn ogystal â’r holl bobl rydw i wedi eu cyfarfod heddiw, yn staff ac yn breswylwyr. Rydw i’n gwbl ymrwymedig i sicrhau bod pobl ifanc yn cael yr un cyfle mewn bywyd ac yn cael eu paratoi i lwyddo wrth iddyn nhw symud yn eu blaen i fyd oedolion.
“Mae’n drist meddwl bod y bobl ifanc sy’n cael eu helpu gan y gwasanaeth ‘Symud i Mewn’ eisoes wedi profi nifer o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a gwyddom fod y profiadau hynny’n cael effaith ar eu bywyd yn ddiweddarach. Serch hynny, maen nhw lwcus i gael cefnogaeth Solas Cymru i oresgyn y profiadau hynny ac mae’n galonogol clywed am eu cynlluniau i symud i’w cartrefi eu hunain, dechrau ar hyfforddiant a chynllunio ar gyfer eu gyrfa yn y dyfodol. Pob dymuniad da iddyn nhw at y dyfodol.”