Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi datgan ei bod yn estyn Parth Atal Ffliw’r Adar sy’n cwmpasu Cymru gyfan, am 7 wythnos arall, tan 28 Chwefror.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd y penderfyniad hwn i estyn y Parth Atal ei wneud yn sgil darganfod Ffliw’r Adar mewn haid o ieir a hwyaid mewn gardd gefn ym Mhont-y-berem, Sir Gaerfyrddin, ddoe.  Dyma’r un straen o Ffliw’r Adar Pathogenig Iawn (H5N8) a gafwyd mewn chwiwell (math o hwyaden wyllt) yn Llanelli ar 22 Rhagfyr, fferm dyrcwn yn Lincolnshire ar 16 Rhagfyr, ac mewn adar gwyllt, caeth a domestig yn Ewrop, y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica. 

Diben y Parth Atal, a gyflwynwyd yn y lle cyntaf ar 6 Rhagfyr 2016, yw cryfhau mesurau bioddiogelwch gan gynnwys gorfodi ceidwaid dofednod ac adar caeth eraill i gadw eu hadar dan-do neu i gymryd camau priodol eraill i rwystro’u hadar rhag dod i gysylltiad ag adar gwyllt. Cafodd trefniadau tebyg eu cyhoeddi yn Lloegr a’r Alban ar yr un diwrnod ac yng Ngogledd Iwerddon ar 23 Rhagfyr 2016, sy’n golygu bod holl wledydd y Deyrnas Unedig yn dilyn yr un drefn.  Cyhoeddodd Lloegr a’r Alban (a Gogledd Iwerddon?) eu bod hwythau am estyn cyfnodau’u Parthau Atal heddiw hefyd. 

Nid yw estyn cyfnod y Parth Atal yn rhwystro ceidwaid dofednod rhag marchnata’u cynnyrch fel cynnyrch maes.  O dan ddeddfwriaeth yr UE ar gyfer marchnata dofednod, mae ceidwaid dofednod yn cael cadw eu statws ‘maes’ am 12 wythnos ar ôl i Lywodraeth gyhoeddi datganiad o’r fath. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: 

“Penderfynon ni estyn y Parth Atal ar ôl clywed cyngor arbenigwyr ac ar ôl ymgynghori â’n cydweithwyr yng ngwledydd eraill y DU.  Yr amcan yw gwarchod ein dofednod ac adar domestig eraill rhag y clefyd. 

“Fy neges i berchenogion adar, gan gynnwys ceidwaid adar gardd gefn, yw cadw at reolau’r Parth Atal, i gadw golwg am arwyddion y clefyd ac i gadw at y trefniadau bioddiogelwch gorau bob amser.

Ychwanegodd y Prif Swyddog Milfeddygol, Christianne Glossop:

“Rwy’n annog pawb sy’n cadw dofednod i gadw golwg am arwyddion y clefyd ac i gadw at y mesurau bioddiogelwch llymaf posib.  Dylid osgoi symud dofednod a dylech wastad diheintio dillad ac offer.” 

"Hyd yn oed os yw’r adar dan do, mae’r perygl o gael eu heintio’n un byw a dylai ceidwaid dofednod ac adar caeth eraill ofalu eu bod yn gwneud popeth posibl i rwystro’u hadar rhag dod i gysylltiad ag adar gwyllt."

Os ydych yn poeni am iechyd eich adar, holwch eich milfeddyg.  Os ydych chi’n credu bod eich adar yn dangos arwyddion y clefyd, cysylltwch ar unwaith â swyddfa leol Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). 

Rydyn ni’n pwyso ar geidwaid dofednod i roi manylion eu heidiau i’r Gofrestr Dofednod.  Drwy wneud, byddwn yn gallu cysylltu â nhw ar unwaith pe bai’r clefyd yn taro er mwyn iddyn nhw allu cymryd y camau angenrheidiol yn syth i ddiogelu’u hadar.

Rydym yn annog y cyhoedd i ffonio llinell gymorth APHA ar 03459 335577 os gwelan nhw unrhyw adar dŵr gwyllt marw (hwyaid, gwyddau neu elyrch) neu wylanod marw, neu bump neu fwy o adar gwyllt o rywogaethau eraill yn farw yn yr un lle.