Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yng Nghasnewydd yr hydref hwn ac ar  18 Gorffennaf, bydd cyfarfod cyn ymchwiliad yn cael ei gynnal.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yng Nghasnewydd yr hydref hwn ac ar  18 Gorffennaf, bydd cyfarfod cyn ymchwiliad yn cael ei gynnal.  Disgwylir iddo bara tua 5 mis.

Bydd Arolygydd Annibynnol yn adolygu’r galw am y cynllun ac yn ystyried yr holl ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.  Bydd yr ymchwiliad yn clywed tystiolaeth gan arbenigwyr technegol yn ogystal â chan y rheini sy’n cefnogi ac yn gwrthwynebu’r cynllun.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:

“Bydd yr ymchwiliad annibynnol hwn yn cyflwyno’r cynigion ar gyfer prosiect Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd mewn fforwm gyhoeddus.  Bydd yn gyfle i graffu ar y manylion mewn amgylchedd agored a thryloyw.  Bydd yr adborth a gawn o’r ymchwiliad yn ein helpu i wneud penderfyniad un ai i barhau â’r gwaith adeiladu ai peidio.

“Ynghyd â gwelliannau seilwaith Gogledd , Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae prosiect yr M4 a’r prosiect Metro yn bwysig iawn i’n gweledigaeth ni ar gyfer creu system drafnidiaeth effeithiol ac integredig yng Nghymru ac rwy’n hapus iawn ein bod wedi llwyddo i symud y mater hwn yn ei flaen mor gyflym.”

Bydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yn Sefydliad Lysaghts, Casnewydd a bydd yn agored i’r cyhoedd.  Bydd Arolygydd Annibynnol yn adolygu’r cynigion yn fanwl ar gyfer y Llwybr Du, sef y llwybr a ffefrir, a bydd yn ystyried y cynigion eraill hefyd.

Pe byddai yr Arolygydd yn argymell y dylai’r cynllun symud ymlaen i’r cam adeiladu, bydd y rhan newydd hon o’r M4 yn agored erbyn Hydref 2021.