Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant wedi cyhoeddi gwerth £7.8 miliwn o gyllid ar gyfer y Rhaglen Atal Digartrefedd yn 2017-18
Mae'r grant yn cefnogi Awdurdodau Lleol a sefydliadau'r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau'r rheng flaen er mwyn atal digartrefedd. Mae'n darparu llochesau nos, hostelau, gwaith maes, gwasanaethau cyfryngu a chynlluniau bondiau, yn ogystal â darparu rhwydwaith sylweddol o wasanaethau cynghori.
Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd Carl Sargeant: “Mae darparu cartref saff, cynnes a diogel yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol. Mae awdurdodau lleol wedi gwneud cychwyn cadarnhaol wrth weithredu'r ddeddfwriaeth a gafodd ei chyflwyno y llynedd i helpu pawb sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref. Yn ogystal â helpu awdurdodau lleol i adeiladu ar y gwaith hwn, bydd y cyllid yn helpu prosiectau sy'n darparu gwasanaethau ar gyfer pobl yn uniongyrchol, er mwyn mynd i'r afael â'u problemau tai.
“Mae ein deddfwriaeth yn golygu bod mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn cael cymorth cynharach er mwyn atal digartrefedd. Byddwn yn annog unrhyw un sy'n meddwl ei fod mewn perygl o fod yn ddigartref i geisio cael cyngor a chymorth. Gorau po gyntaf y cewch gyngor, er mwyn lleihau'r perygl o fod yn ddigartref.”
Un o'r sefydliadau a fydd yn derbyn cyllid yn 2017/18 yw Barnardos Cymru, sy'n rheoli gwasanaeth BAYS Mediation & Home Support. Mae’r gwasanaeth hwn yn ceisio atal digartrefedd yn ardal Abertawe drwy gefnogi pobl ifanc i dorri dadleuon gyda'u teulu a dod i gytundeb.
Dywedodd Sarah Crawley, Cyfarwyddwr Barnardos Cymru:
“Bydd y cyllid hwn yn allweddol er mwyn ein helpu i gefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref drwy ganiatáu iddyn nhw aros yn eu cartrefi neu ddod o hyd i lety addas arall. Rydyn ni'n croesawu'r cyfle i gefnogi Cyngor Abertawe yn ei ddyletswyddau newydd i atal digartrefedd ar gyfer pawb.”
Dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar dai:
“Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn croesawu'r cyhoeddiad ynghylch cyllid ar gyfer y Rhaglen Atal Digartrefedd. Mae awdurdodau lleol a'u partneriaid yn gweithio gyda miloedd o aelwydydd bob blwyddyn sy'n wynebu'r bygythiad a'r diflastod sy'n gysylltiedig â digartrefedd. Mae'r cyllid hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y staff a'r gwasanaethau sydd eu hangen i atal a lliniaru digartrefedd ar gael ledled Cymru.”