Neidio i'r prif gynnwy

Bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn dod i wybod beth yw eu cyfran hwy o werth £25.9 miliwn o grantiau trafnidiaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr arian yn mynd tuag at raglenni gwella diogelwch, lleihau tagfeydd, creu twf economaidd a hyrwyddo teithio llesol.

Gwahoddwyd awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau ar gyfer eu prif gynlluniau. Daeth 190 o geisiadau i law.

Bydd y Gronfa Trafnidiaeth Leol gwerth £6.15 miliwn yn caniatáu i 18 cynllun  barhau â gwaith ar brosiectau aml flwyddyn, ar draws 13 awdurdod lleol. Rhoddwyd £5 miliwn ychwanegol i alluogi awdurdodau lleol i ariannu’r gwaith o ddatblygu cynlluniau teithio llesol.

Bydd y Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol o £4 miliwn yn sicrhau bod 4 cynllun cyfredol yn gallu parhau a bod 9 cynllun newydd yn gallu dechrau ar draws 13  Awdurdod Lleol.

Bydd Grant Cyfalaf Diogelwch ar y Ffyrdd gwerth bron £4 miliwn yn ariannu 18 o gynlluniau gan helpu i leihau nifer yr anafiadau mewn 11 awdurdod lleol.

Mae'r Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau gwerth £5 miliwn yn canolbwyntio ar 26 o gynlluniau sy'n gwella llwybrau cerdded a beicio i ysgolion mewn 18 awdurdod lleol.

Yn ogystal, bydd bron £1.75 miliwn yn cael ei ryddhau i bob awdurdod lleol ar gyfer rhaglenni addysg a hyfforddi diogelwch ar y ffyrdd, yn enwedig ymysg grwpiau risg uchel a grwpiau sy'n agored i niwed, fel plant, pobl ifanc, gyrwyr hŷn a gyrwyr beiciau modur.

Bydd y cyllid yn caniatáu datblygu sawl prosiect megis gorsaf drenau Abercynon, sy'n cael ei ehangu i gynnwys cyfleuster parcio a theithio newydd sy'n anelu at annog preswylwyr i beidio â defnyddio trafnidiaeth breifat, gan leihau nifer y ceir sy'n cael eu defnyddio a gwella ansawdd yr aer mewn trefi a dinasoedd.

Yn y Gogledd, mae cyllid sylweddol wedi'i fuddsoddi yng Nghynllun Blaenoriaeth i Fysiau Bae Cinmel, fydd yn lleihau tagfeydd ar y groesfan ag arwyddion ar yr A548 rhwng Foryd Road a St Asaph Avenue.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:

“Mae'r grantiau'n fuddsoddiad mawr i gynnal twf economaidd lleol, gwella diogelwch ar y ffyrdd a darparu llwybrau gwell a mwy ohonynt, er mwyn galluogi pobl yng Nghymru i gerdded a beicio, ac i wneud hynny'n ddiogel.

"Dw i wrth fy modd â'r amrywiaeth o gynlluniau dw i wedi gallu'u cyhoeddi heddiw a hoffwn ganmol ansawdd uchel y ceisiadau a ddaeth i law ar gyfer y grantiau hyn.”

Gweler rhestr lawn y cynlluniau llwyddiannus yma.