Mae Ken Skates wedi cyhoeddi bod tri aelod newydd wedi'u penodi i Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC).
Bydd cyfnodau Ms Kate Eden, Dr Rachel O’Riordan a Mr Dafydd Rhys yn y swydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2017, gan bara tair blynedd yn y lle cyntaf.
Mae aelodau Cyngor CCC yn gyfrifol am bennu nodau ac amcanion Cyngor y Celfyddydau, ac am sicrhau eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru. Mae cyfrifoldeb arnynt hefyd i sicrhau bod cyllid yng Nghymru yn cael ei fuddsoddi mewn ffordd effeithiol.
Mae'r tri aelod newydd yn ychwanegol at y ddau aelod a benodwyd ar 1 Tachwedd 2016, ac yn ychwanegu hefyd at aelodaeth bresennol y Cyngor. Ar ôl y penodiadau hyn, bydd gan y Cyngor bellach13 o aelodau, ynghyd â’r Cadeirydd, Dr Phil George.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod y tri aelod newydd hyn o'r Cyngor wedi'u penodi. Mae gan y bobl a benodwyd brofiad personol a phroffesiynol helaeth ym maes y celfyddydau, ond maent yn dod o gefndiroedd cwbl wahanol.
“Bydd y sgiliau, yr wybodaeth a'r arbenigedd sydd gan yr unigolion hyn yn ychwanegu'n fawr at y cryfderau sydd gan y Cyngor ar hyn o bryd, a hynny ar adeg o newid wrth iddo wynebu heriau a chyfleoedd y dyfodol.
Ychwanegodd Phil George, Cadeirydd CCC:
“Mae'n bleser mawr cael croesawu'r tri aelod newydd hyn a fydd yn dod â sgiliau a phrofiad helaeth, yn ogystal â gwir angerdd dros y celfyddydau, i'n Cyngor.
“Byddan nhw'n eiriolwyr ac yn genhadon gwych dros y celfyddydau yng Nghymru, a dw i'n edrych 'mlaen at eu cyfraniad wrth inni ymdrechu i sicrhau bod pob cymuned yng Nghymru yn gallu mwynhau a manteisio ar gelfyddydau o ansawdd uchel.
"Rydyn ni'n edrych 'mlaen at eu croesawu'n Aelodau o'r Cyngor yn ein cyfarfod ym mis Mai."
Bydd dau o’r aelodau presennol, Dr Kate Woodward a Mrs Margaret Jervis, sydd wedi rhoi o'u gwasanaeth i’r Cyngor ers amser hir, yn cyrraedd diwedd eu trydydd cyfnod – a’u cyfnod olaf ‒ ar 31 Mawrth 2017.