Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cyhoeddi Parth Atal Ffliw’r Adar newydd a fydd mewn grym o 28 Chwefror tan 30 Ebrill.
Cadarnhaodd Lesley Griffiths hefyd y byddai rhai o fesurau’r Parth Atal Cymru gyfan newydd yn newid.
Yn y Parth Atal presennol, rhaid i geidwaid dofednod ac adar caeth eraill gadw eu hadar dan do neu gymryd pob cam priodol i’w cadw nhw ac adar gwyllt ar wahân, a gwella’r mesurau bioddiogelwch ar eu heiddo. Cafodd y Parth ei greu ar ôl cael hyd i achosion o Ffliw’r Adar ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys un mewn haid o ieir a hwyaid mewn gardd gefn ger Pont-y-berem, Sir Gâr.
Yn ôl yr arbenigwyr, ni fydd lefel y risg yn debygol o newid cyn y daw’r Parth Atal presennol i ben ar 28 Chwefror. O ystyried hynny ac ar ôl holi barn cynrychiolwyr y diwydiant a milfeddygon, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi penderfynu creu Parth Atal newydd a ddaw i rym ganol nos 28 Chwefror.
Yn y Parth Atal Ffliw’r Adar newydd, bydd gofyn i geidwaid adar gynnal hunan-asesiad o’r mesurau bioddiogelwch ar eu safle. Nod y mesurau hynny yw cadw adar domestig ac adar gwyllt yn gwbl ar wahân trwy gadw adar domestig dan do neu drwy ddilyn mesurau eraill, a allai gynnwys rhoi rhyddid cyfyngedig iddyn nhw fynd allan cyn belled ag y bodlonir mesurau ychwanegol i leihau’r risg.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Mae fy mhenderfyniad i sefydlu Parth Atal Ffliw’r Adar newydd tan 30 Ebrill yn seiliedig ar gyngor gorau arbenigwyr a’r diwydiant.
“Nid yw’r risg oddi wrth adar gwyllt yn debygol o leihau yn yr wythnosau i ddod. Mae’r newidiadau rwy’n eu cyhoeddi heddiw yn gymesur ac yn rhoi’r cyfrifoldeb ar y ceidwad i ddewis yr opsiwn gorau ar gyfer ei amgylchiadau i amddiffyn ei hadar. Serch hynny, rhaid cadw at y mesurau ychwanegol i leihau’r risg.”
Ychwanegodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop:
“Rhaid i geidwaid dofednod ac adar caeth eraill gadw eu llygaid ar agor am arwyddion y clefyd. Mae Ffliw’r Adar yn glefyd hysbysadwy ac os ydych yn credu bod posibilrwydd y gallai’r clefyd fod ar eich adar, cysylltwch ar unwaith â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Mae perygl i hyd yn oed adar dan do gael eu heintio a dylai ceidwad gynnal y lefelau bioddiogelwch uchaf.
Rwy’n parhau i bwyso’n drwm ar geidwaid dofednod, hyd yn oed y rheini sydd â llai na 50 o adar, i roi eu manylion i’r Gofrestrfa Dofednod. Bydd modd wedyn gysylltu â nhw’n syth, trwy e-bost neu neges destun, os bydd achos o glefyd adar yn taro, er mwyn iddyn nhw allu cymryd camau buan i amddiffyn eu haid.”