Neidio i'r prif gynnwy

Mae £60,000 o arian Llywodraeth Cymru wedi’i neilltuo i bysgotwyr a chymunedau glan môr Cymru i’w helpu i ymgeisio am filiynau o bunnau o gyllid Ewropeaidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (EMFF) ei sefydlu i roi help ar gyfer addasu i’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin, gan gynnwys rheoli a gorfodi ac ymrwymo i gasglu data.  Mae’r EMFF yn cefnogi’r sectorau pysgota a dyframaethu i ddatblygu’n gynaliadwy ac yn helpu i warchod amgylchedd y môr ynghyd â chynnal twf a swyddi mewn cymunedau arfordirol.

Er mwyn helpu busnesau pysgodfeydd bach gyda’r broses ymgeisio, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi neilltuo arian ychwanegol.  Bydd pob busnes bach sydd am ymgeisio am arian yr EMFF yn gallu cael hyd at £3,000 i dalu am gynghorydd o’i ddewis i’w helpu i ddatblygu’i syniadau yn brosiectau ymarferol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

“Mae Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop yn werth rhwng £14m - £16m i’r diwydiannau pysgota a dyframaethu yng Nghymru.  Mae’n gaffaeliad sy’n ein helpu i wireddu’n nod o ddatblygu sector pysgota byrlymus, cystadleuol a chynaliadwy.  

“Mae canlyniad refferendwm yr UE llynedd a’r addewid ers hynny gan y Trysorlys i anrhydeddu unrhyw ymrwymiadau tan y bydd y DU yn gadael yr UE yn golygu ei bod yn bwysig bod Cymru’n gallu manteisio’n llawn ar yr arian sydd ar gael yn y Gronfa.

“Rwyf felly wedi penderfynu neilltuo arian o nghyllideb i helpu busnesau pysgota bach sy’n ystyried gwneud cais am nawdd o’r EMFF.

“Mae yna lawer o syniadau da ar gyfer prosiectau, ond nid oes gennym y fantais o flwyddyn i droi’r syniadau hyn yn brosiectau y gellir eu cefnogi.  Nod yr help fydd gwneud hynny, sef sicrhau bod y syniadau sy’n cael eu cynnig yn barod i gael eu rhoi ar waith yn syth i dyfu’n brosiectau ymarferol”.