Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths wedi datgan ei bod am weld pobl ifanc yn arwain y ffordd ac yn gosod y trywydd ar gyfer dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Cynllun Pobl Ifanc mewn Amaethyddiaeth yn cynnig cefnogaeth ariannol i unigolion llwyddiannus iawn sy’n edrych ar sefydlu busnes newydd neu ddatblygu busnes sydd eisoes yn bodoli. Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus allu dangos  bod ganddynt y rhinweddau i arwain busnesau deinamig ac ysgogi newid yn y diwydiant ehangach. 

Bydd y cynllun sy’n werth £6m, ac ar gael fel rhan o gytundeb y gyllideb â Phlaid Cymru, yn datblygu sgiliau arweinyddiaeth y cyfranwyr. Bydd y Cynllun yn annog pobl ifanc i ddefnyddio’r sgiliau hyn a rhannu eu profiad a’u gwybodaeth o fewn y diwydiant.

Cynigir bod Fforwm y Cynllun Pobl Ifanc mewn Amaethyddiaeth yn mynd law yn llaw â’r cynllun hwn. Bydd aelodau’r Fforwm yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisïau a fydd o fudd i deuluoedd amaethyddol, busnesau amaethyddol a chefn gwlad Cymru.

Bydd y Fforwm yn gyfle i bobl ifanc fynegi barn a syniadau yn hyderus ac yn uniongyrchol i Weinidogion, uwch-swyddogion a chyrff o fewn y diwydiant gyda golwg ar roi cefnogaeth i ddenu ffermwyr y dyfodol.

Mae datblygu arweinwyr y dyfodol yn elfen bwysig o’r cynllun hwn. Disgwylir i aelodau’r Fforwm weithio gyda mentor i ddatblygu Cynllun Datblygu Personol sy’n cefnogi eu hanghenion dysgu a datblygu. 

Wrth lansio’r cynlluniau yn ystod Brecwast Ffermdy’r FUW, ac wrth siarad yn nes ymlaen â myfyrwyr Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yr Academi Amaeth 2017 dan ofal Cyswllt Ffermio, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

“Mae brwdfrydedd ac ymroddiad pobl ifanc yn y byd amaeth yng Nghymru yn dal i greu cryn argraff arna i. Dyma faes sydd wedi bod yn un o’m prif flaenoriaethau, sef cefnogi ffermwyr y dyfodol. Rwyf wedi sgwrsio â phobl ifanc i gael gwell dealltwriaeth o’r math o gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i allu mynd i mewn i’r diwydiant ac i ddatblygu busnesau cynaliadwy a chryf.

“Mae’n rhaid i ni fod yn barod i wynebu’r heriau o ran pontio wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae effaith hyn ar ffermwyr yn debygol o gael mwy o effaith ar y sector amaethyddiaeth nac ar unrhyw sector arall. Rhaid i ni gyd wneud ein rhan i adeiladu gwytnwch a chryfder a sicrhau ein bod yn creu amgylchedd lle y gall busnes ffynnu a lle y gall unigolion ddatblygu i fod yn arweinwyr y diwydiant. Bydd y ddau gynllun sy’n cael eu cyhoeddi heddiw yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu eu hunain a’u busnesau wrth i ni baratoi am fywyd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. 

“Bydd y ddau gynllun yn cydredeg â’r gefnogaeth bresennol a roddir gan Lywodraeth Cymru i newydd-ddyfodiaid ifanc a newydd-ddyfodiaid eraill, cynlluniau fel  Cyswllt Ffermio a’r Grant Busnes i Ffermydd. Rwy’n ffyddiog, er gwaetha’r heriau sy’n wynebu amaethyddiaeth yng Nghymru, bod yna gyfleoedd i ddatblygu diwydiant sy’n gryf a chadarn, a fydd yn fuddiol i genedlaethau Cymru’r dyfodol.”