Mae'r drydedd rownd o gyllid wedi'i dyfarnu i 13 o brosiectau sy'n cefnogi creu 16 o Goetiroedd Bach newydd ledled Cymru.
Mae'r cyllid, sy'n werth mwy na £500,000, wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei weinyddu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mae Coetiroedd Bach tua maint cwrt tenis, a gofynion rheoli a chynnal a chadw isel sydd iddynt ar ôl y ddwy flynedd gyntaf.
Roedd grantiau o hyd at £40,000 ar gael i ymgeiswyr fesul safle, gydag uchafswm o £250,000 ar gyfer safleoedd lluosog mewn un cais.
Roedd modd i sefydliadau, cymunedau ac unigolion a oedd am greu coetiroedd bach newydd mewn cydweithrediad â chymunedau lleol wneud cais am y grant.
Ar ôl eu cwblhau, bydd pob safle yn dod yn rhan o’r Goedwig Genedlaethol i Gymru yn awtomatig.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
Yn ddiweddar, ymwelais â Choetir Bach yn Llangors ac mae'n enghraifft wych o sut mae'r safleoedd hyn yn galluogi cymunedau i gael mynediad at fyd natur a mannau gwyrdd yn ogystal â chyflwyno bioamrywiaeth gyfoethog i ardaloedd trefol.
Mae'r coetiroedd bach hyn sydd wedi'u gosod yn glòs wrth ei gilydd yn tyfu'n gyflym, a gallant ddenu mwy na 500 o rywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion yn eu tair blynedd gyntaf.
Rwy'n falch iawn o allu cyhoeddi ein bod wedi dyfarnu gwerth mwy na hanner miliwn o bunnoedd o gyllid i greu mwy o ardaloedd fel hyn ledled Cymru.
Mae'r Grant Coetiroedd Bach yn cefnogi creu coetiroedd bach rhwng Ebrill 2023 a diwedd Mawrth 2025.
Mae'n rhan o’r rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru.