Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ddeddf newydd yn gosod dyletswydd ar Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG i gyfrifo a rheoli lefelau staff nyrsio mewn wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt i gleifion mewnol sy'n oedolion

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Ddeddf newydd yn gosod dyletswydd ar Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG i gyfrifo a rheoli lefelau staff nyrsio mewn wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt i gleifion mewnol sy'n oedolion, yn ogystal â dyletswydd ehangach i ystyried faint o nyrsys y mae eu hangen er mwyn darparu'r lefel fwyaf priodol o ofal i gleifion ym mhob lleoliad.

Y cam cyntaf fydd ymgynghori gydag arbenigwyr ar nyrsio i ddatblygu canllawiau a fydd yn helpu'r Byrddau Iechyd a'r ymddiriedolaethau i roi'r ddeddfwriaeth ar waith. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddarach eleni ar sut y dylai'r canllawiau helpu'r Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG i roi'r ddeddfwriaeth ar waith.

Cyflwynodd Kirsty Williams AC Fil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) ym mis Rhagfyr 2014 fel Bil Aelod Preifat. Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 21 Mawrth 2016.

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi cychwyn y Ddeddf heddiw tra'n cwrdd â chynrychiolwyr o'r Coleg Nyrsio Brenhinol a staff Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd:

"Dw i wedi sôn o'r blaen mai nyrsys yw curiad calon y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Roedd yn bleser cael bod yng nghwmni cynrychiolwyr o'r Coleg Brenhinol, a staff Ysbyty Tywysoges Cymru, i gyhoeddi cychwyn y Ddeddf ac i glywed am eu profiadau nhw o wneud y gwaith o ddydd i ddydd.

"O'r llon i'r lleddf, mae gwrando ar eu profiadau wedi bod yn werthfawr iawn a dw i'n edrych ymlaen at gwrdd â nhw eto'n fuan.

"Hoffwn ddiolch i Kirsty Williams AC am gyflwyno'r Bil hwn. Dw i'n siŵr y bydd yn arwain at wella'r gofal y mae cleifion y gwasanaeth iechyd yn ei gael yng Nghymru."

Dywedodd yr Athro Jean White, y Prif Swyddog Nyrsio:

"Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod digon o nyrsys ar gael i ddiwallu anghenion cleifion y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac mae'r Ddeddf hon yn helpu sefydliadau'r GIG benderfynu beth fydd ei angen. Mae heddiw'n garreg filltir bwysig gan ddechrau'r broses o roi'r Ddeddf ar waith, ac rydym yn falch o weld hyn yn digwydd."

Meddai Tina Donnelly CBE TD DL, Cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru:

"Mae'r Coleg Brenhinol yn croesawu'r cyhoeddiad hwn i gychwyn y Ddeddf yn swyddogol; Deddf fydd yn trawsnewid gofal cleifion.  

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn gwneud yn siŵr bod cael lefel briodol o staff nyrsio ac amrywiaeth o sgiliau yn rhoi mwy o amser i nyrsys ofalu am eu cleifion yn ddiogel.

“Mae ymgyrchwyr ac aelodau'r Coleg Brenhinol wedi chwarae rôl allweddol wrth sicrhau bod y ddeddf newydd hon yn cael ei chreu drwy ddwyn y mater at sylw Aelodau'r Cynulliad a phwysleisio'r manteision i'r cleifion pan fo digon o staff ar gael i gynnig y lefel addas o ofal.

"Dyma'r ddeddf gyntaf o'i math yn y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop. Mae'n enghraifft o'r hyn sy'n bosib i staff gofal iechyd a gwleidyddion ei gyflawni wrth iddynt gydweithio er lles y cleifion."