Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths wedi gweithredu i roi gwarchodaeth gryfach i adar môr a llamhidyddion yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar ôl cynnal ymgynghoriad y llynedd ar sefydlu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig newydd (ACA) ar gyfer llamhidyddion, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymeradwyo tair ardal o'r fath. Mae'r ardaloedd hynny wedi'u cyflwyno bellach i'w hystyried gan y Comisiwn Ewropeaidd.
Y tair ardal yw Ardal Forol Gogledd Ynys Môn, Ardal Forol Gorllewin Cymru a Cheg Môr Hafren.
Nodwyd yr ardaloedd hynny ar sail 18 mlynedd o ddata am ddosbarthiad llamhidyddion a nodwyd eu bod yn rhai pwysig oherwydd bod mwy o lamhidyddion yn cael eu gweld yno'n gyson nag mewn ardaloedd eraill. Bydd yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn ategu'r mesurau cadwraeth sydd yn eu lle eisoes ar draws dyfroedd y DU er mwyn helpu i sicrhau bod statws y rhywogaeth yn parhau'n ffafriol.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi cymeradwyaeth hefyd i sefydlu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig mewn tair ardal forol arall. Yn eu plith y mae Gogledd Bae Ceredigion sy'n gartref i'r trochydd gyddfgoch dros y gaeaf, ac mae hi hefyd wedi ehangu dwy ardal fridio sy'n bwysig i adar môr, sef Ynys Feurig, Bae Cemlyn ac Ynys Sgogwm ac Ynys Skomer, sy'n hollbwysig ar gyfer ymdrwsio ac ymddygiadau eraill yn ystod y tymor pan fydd yr adar yn bridio.Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Rydym wedi ymrwymo i greu rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru er mwyn i rywogaethau a chynefinoedd fedru ffynnu. Mae amgylchedd iach a chyfoethog yn y môr yn sicrhau bod modd defnyddio'n moroedd mewn ffordd gynaliadwy yn awr ac yn y dyfodol.“Mae'r ymateb eang i ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru ar warchod llamhidyddion yn dangos bod pobl yn rhoi gwerth ar warchod bywyd yn y môr.  Dw i'n falch ein bod yn cymryd camau i warchod ein llamhidyddion ac i warchod ardaloedd sy'n bwysig i adar môr."
Dywedodd Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu: 
"Rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith bod y moroedd o amgylch Cymru’n cynnal y fath gyfoeth o fywyd gwyllt. Mae’n cael ei werthfawrogi'n fawr gan gymunedau lleol ac mae’n cynnal busnesau pwysig fel pysgota, twristiaeth a hamdden.“Mae CNC yn edrych ’mlaen at weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod y safleoedd hyn yn cael eu rheoli’n briodol er mwyn helpu i’w cadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”