Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio ar y cyd â'r elusen anifeiliaid anwes y Groes Las a'r heddlu yng Nghymru i fynd i'r afael â chŵn sy'n ymosod ar dda byw.
Mae cŵn sy'n ymosod ar dda byw yn destun gofid aruthrol ac rydyn ni am wneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â'r broblem.
O fis Medi ymlaen, bydd cwrs newydd gan y Groes Las yn cyflwyno modiwl 'ymddygiad o amgylch da byw' at ei gwrs ar sut i fod yn berchennog cyfrifol ar gi.
Nod y cwrs yw addysgu perchnogion cŵn a lleihau nifer yr ymosodiadau ar dda byw gan gŵn.
Bydd ar gael i'r heddlu ledled Cymru i ddelio â pherchnogion cŵn sy'n ymosod ar dda byw.
Cafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, gyfarfod â ffermwr y bu cŵn yn ymosod ar ei dda byw yn ddiweddar:
Mae cŵn sy'n ymosod ar dda byw yn broblem fawr a gofidus iawn ac rydym am i ffermwyr ddeall ein bod yn cymryd y mater hwn o ddifrif.
Mae cwrdd â rhywun sydd wedi dioddef trosedd o'r math hwn wedi rhoi cyfle i mi drafod y broblem yn fanwl â'r cymunedau yr effeithiwyd arnyn nhw.
Rydyn ni'n cymryd yr ymosodiadau hyn o ddifrif ac rydyn ni am i bobl ysgwyddo'u cyfrifoldeb am ymddygiad eu cŵn p'un a ydyn nhw'n byw ar fferm neu'n cerdded ger tir fferm.
Rob Taylor, Cydlynydd Bywyd Gwyllt a Throseddau Gwledig Cymru sydd wedi addasu a threfnu'r cwrs.
Nod ei swydd yw cryfhau'r ymateb i droseddau Bywyd Gwyllt a Gwledig ledled y wlad ac mae arian wedi'i neilltuo i estyn y contract am bedair blynedd arall.
Dywedodd Rob Taylor:
Fel prif swyddog yr Heddlu yn y DU ar atal cŵn rhag ymosod ar dda byw, rwy'n gweld yn rhy aml yr effaith ddinistriol y mae hyn yn ei chael, nid yn unig ar yr anifeiliaid, ond ar y ffermwr a pherchennog y ci hefyd, yn ariannol ac yn emosiynol.
Mae hon yn broblem anodd delio â hi ond yn ogystal â newidiadau mawr eu hangen i'r gyfraith, rydym yn gweld bod cwrs i addysgu perchnogion anghyfrifol yn hanfodol i allu symud ymlaen a lleihau nifer y troseddau.
Rwyf hefyd yn croesawu'r estyniad i'r swydd cydlynydd gwledig yma yng Nghymru. Bydd yn rhoi cyfle imi adeiladu ar y sylfeini cryf a'r gweithgarwch yr ydym eisoes wedi'u datblygu gyda'n partneriaid, trwy Strategaeth Troseddau Bywyd Gwyllt a Gwledig Cymru.
Dywedodd Kerry Taylor, Rheolwr Addysg y Groes Las:
Mae'r Groes Las yn cydnabod bod perchenogion anghyfrifol a phroblemau sy'n codi o ddiffyg rheolaeth ar gŵn yn gallu bod yn broblem fawr mewn cymunedau, gan achosi gofid i drigolion ac i berchnogion anifeiliaid anwes eraill.
Mae bod yn berchennog cyfrifol ar gi yn agwedd bwysig o ran gallu rheoli ci'n effeithiol ac mae hynny'n cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles y ci. Nod yr RDOC yw cefnogi perchnogion cŵn a'u cŵn ar bwynt tyngedfennol, lleihau aildroseddu a chreu cymunedau mwy diogel.
Aeth Ysgrifennydd y Cabinet yn ei flaen:
Rwy'n ddiolchgar i Rob Taylor, y Groes Las a'r heddlu yng Nghymru am eu gwaith a'u help i gyflwyno'r cwrs hwn.
Mae'r cwrs i'w groesawu i fynd i'r afael â mater sy'n effeithio'n ddwfn ar ein cymunedau ffermio.