Neidio i'r prif gynnwy

Yn ddiweddar, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, â Lido Pontypridd a Pharc Ynysangharad i weld a chlywed am effaith y llifogydd diweddar a achoswyd gan Storm Bert.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn rhybuddion tywydd am law a gwynt, achosodd Storm Bert ddifrod a llifogydd sylweddol i fwy na 600 eiddo ledled Cymru.

Pontypridd oedd un o'r cymunedau a gafodd eu taro galetaf, gyda'r storm yn effeithio ar gartrefi, busnesau ac adeiladau masnachol, gan gynnwys Lido Pontypridd sydd yn adeilad rhestredig Gradd II.

Yn ystod yr ymweliad, clywodd Ysgrifennydd y Cabinet am y difrod i'r Lido a'r gwaith adfer sydd eisoes wedi'i gwblhau gan staff.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:

Mae effeithiau Storm Bert wedi bod yn ddinistriol i'n cymunedau ac rwy'n teimlo i'r byw dros bawb sydd wedi'u heffeithio.

Mae'n amlwg bod staff ymroddedig Lido Pontypridd a Pharc Ynysangharad wedi gweithio'n ddiflino i ddiogelu eu safleoedd a gwneud gwaith adfer. Mae eu hymdrechion nhw i'w canmol yn fawr.

Mae ein hawdurdodau lleol hefyd wedi dangos gwytnwch anhygoel a hoffwn ddiolch iddynt am eu hymdrechion ar y cyd wrth ymateb i ddifrod y llifogydd.

Byddwn yn parhau i ddarparu cefnogaeth wrth i ni adfer o'r storm. Ein blaenoriaeth bob amser yw sicrhau diogelwch a lles ein cymunedau.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n cysylltu ag awdurdodau lleol i asesu maint llawn y difrod ac i gydlynu ymdrechion adfer.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu awdurdodau lleol i ddarparu grantiau o £1,000 i aelwydydd heb yswiriant, neu £500 i aelwydydd yr effeithiwyd arnynt sydd â sicrwydd yswiriant presennol.