Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cadarnhau bod cylch cyllido newydd, gwerth dros £18 miliwn, ar gyfer Glastir Uwch wedi cyhoeddi.
Glastir Uwch yw elfen flaenllaw Glastir, a thrwyddi mae Llywodraeth Cymru’n cynnig cymorth ariannol i ffermwyr a thirfeddianwyr ar gyfer gwella’r rheolaeth amgylcheddol o’u tir. Mae Glastir yn talu am gyflenwi nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol a phenodol sy’n ceisio mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, gwella’r gwaith o reoli dŵr a chynnal a gwella bioamrywiaeth.
Mae Glastir Uwch yn cynnig ymyriadau ariannol wedi’u targedu, sy’n anelu at gynorthwyo ffermwyr a thirfeddianwyr i gyflawni gwelliannau amgylcheddol sy’n cynnig gwerth am arian ar gyfer cynefinoedd, rhywogaethau, pridd a dŵr.
Mae’r cylch newydd o gyllid ar gyfer Glastir Uwch werth £18.36 miliwn ac mae disgwyl iddo gyflawni hyd at 340 o gontractau Glastir Uwch yn 2018 (ar sail amcangyfrif o £54,000 fesul contract). Bydd y cyfnod Datgan Diddordeb ar gyfer Glastir Uwch 2018 yn agor ar 28 Chwefror 2017 a bydd yn dod i ben am hanner nos ar 31 Mawrth 2017.
Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet y cyhoeddiad hwn wrth iddi agor yn swyddogol swyddfeydd newydd Undeb Amaethwyr Cymru yn y Drenewydd. Dywedodd:
“Pleser yw cyhoeddi, ar ddiwrnod agor swyddfeydd newydd ac arbennig Undeb Amaethwyr Cymru yn y Drenewydd, bod cylch newydd o gyllid Glastir Uwch sydd werth dros £18 miliwn ar agor.
“Mae Glastir Uwch yn agwedd allweddol ar y gwaith o gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr amgylchedd gwledig. Hoffwn annog ffermwyr a thirfeddiannwyr ar draws Cymru i ganfod rhagor o wybodaeth am gynllun Glastir Uwch, a gweld a ydynt yn gymwys. Os ydynt yn gymwys bydd ganddynt hyd 31 Mawrth i ddatgan diddordeb.”
Bydd rhagor o wybodaeth am Glastir Uwch, gan gynnwys canllawiau ar ddatgan diddordeb, ar gael yn fuan.
Caiff Glastir ei gyllido gan Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-20, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.