Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Economi Gylchol yn helpu BBaChau i symud tuag at 'Economi Gylchol'.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Economi Gylchol yn helpu BBaChau i symud tuag at 'Economi Gylchol'; ffordd o weithio sy'n annog cylchdroi adnoddau yn hytrach na'u llosgi neu eu taflu mewn safleoedd tirlenwi.

Bydd y Gronfa gwerth £6.5miliwn, fydd yn dechrau yn 2019, yn adeiladu ar lwyddiant mawr y prosiect Cyflymu Datblygiad Seilwaith Ailbrosesu (ARID) gwerth £14 miliwn a wnaeth helpu busnesau i greu 178 o swyddi newydd, lleihau, ailddefnyddio neu ailgylchu 399,000 tunnell o wastraff ac osgoi 79.5KT o allyriadau carbon.

Mewn byd lle mae prisiau adnoddau'n cynyddu'n gyflym, mae gan y model economi gylchol y potensial i ddarparu manteision sylweddol i fusnesau Cymru. Mae astudiaethau diweddar wedi canfod y gall mabwysiadu Economi Gylchol arbed hyd at £2 biliwn i Economi Cymru ac mae hefyd potensial i greu hyd at 30,000 o swyddi.

Mae Cymru eisoes yn arwain y ffordd o ran cyfraddau ailgylchu yn y DU. Bydd y gronfa a gyhoeddwyd heddiw, yn helpu Cymru i gyrraedd y cerrig milltir, sef ailgylchu 70% erbyn 2025 a 100% erbyn 2050, fel y nodwyd yn strategaeth wastraff Llywodraeth Cymru, Tuag at Ddyfodol Diwastraff.

Mae ymrwymiad Cymru i Economi Gylchol yn cael i brofi drwy ein haelodaeth o CESME (Economi Gylchol i Fusnesau Bach a Chanolig), prosiect UE. Mae’n cynnwys deg partner o chwe gwlad yn Ewrop, ac yn eu cefnogi i rannu gwybodaeth a dysgu. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf CESME yng Nghymru y llynedd ac mae wedi chwarae rôl fawr mewn digwyddiadau dilynol yn Aalborg, Denmarc a Bologna, yr Eidal.

Yn ystod y cyfarfod yn Bologna, cytunwyd bod busnesau yn datblygu datrysiadau economi gylchol pan fydd cymhelliant i wneud hynny. Bydd Cronfa Cyfalaf Economi Gylchol gwerth £6.5 miliwn Cymru yn dangos manteision amrywiol y model Economi Gylchol i gwmnïau gweithgynhyrchu Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Mae'r gronfa gwerth £6.5 miliwn rwy'n ei chyhoeddi heddiw yn dangos ein hymrwymiad i symud tuag at Economi Gylchol.  Bydd yn helpu busnesau i arbed arian drwy fod yn fwy effeithlon a chryf. Bydd y ffordd hon o weithio yn arwain at fanteision amgylcheddol niferus gan gynnwys llai o wastraff a llai o allyriadau CO2.

"Rydym yn falch o'r ffaith pe bai Cymru yn aelod-wladwriaeth yr UE, buaswn ni'n bedwaredd o ran faint rydym yn ei ailgylchu. Byddwn yn parhau i annog busnesau drwy'r wlad a'n partneriaid Ewropeaidd i fabwysiadu Economi Gylchol wrth i ni anelu at gyflawni'r targedau uchelgeisiol y gwnaethom eu gosod i ni'n hunain yn Tuag at Ddyfodol Diwastraff."