Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant AS, wedi cyhoeddi bod Ruth Glazzard wedi cael ei phenodi yn Gadeirydd Panel Sicrwydd Annibynnol Rheoleiddio Tai newydd, o 17 Chwefror 2025 am gyfnod o dair blynedd, gyda'r posibilrwydd o estyn y cyfnod hwn am dair blynedd arall.
Rôl y panel yw rhoi barn annibynnol ar ba mor effeithiol y mae'r Fframwaith Rheoleiddio ar gyfer Cymdeithasau Tai sydd wedi'u Cofrestru yng Nghymru (y Fframwaith Rheoleiddio) yn cael ei weithredu.
Fel cadeirydd y panel bydd Ruth yn darparu arweinyddiaeth i'r Panel Sicrwydd Annibynnol Rheoleiddio Tai, yn sicrhau ei fod yn effeithiol ac yn gweithredu fel llefarydd ar ran y panel.
Bywgraffiad
Ruth Glazzard yw Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru, ac mae ganddi bortffolio o rolau anweithredol, gan gynnwys Is-gadeirydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae Ruth yn gyn-aelod o fwrdd Cymdeithas Tai Coastal ac roedd yn aelod o grŵp llywio'r bwrdd a oedd yn goruchwylio'r uno diweddar rhwng Coastal ag RHA. Mae gan Ruth gefndir mewn gwasanaethau ariannol, rheoleiddio a llywodraethu, ac mae ganddi gryn brofiad fel aelod annibynnol a chadeirydd byrddau archwilio a safonau llywodraeth leol.
Mae hi'n dod o dde Cymru yn wreiddiol, a bu'n gweithio i fanciau a chymdeithasau adeiladu ledled y DU cyn ymuno â'r Rheoleiddiwr Gwasanaethau Ariannol yn 2006, gan weithio mewn rolau gweithredol a rheoleiddiol drwy argyfwng ariannol 2008 a'r newidiadau dilynol yn y gyfundrefn reoleiddio. Yn dilyn rôl ryngwladol fel pennaeth llywodraethu ar gyfer Standard Chartered Bank, daeth Ruth yn ôl i Gymru lle mae hi'n canolbwyntio ar yrfa anweithredol wrth fagu ei theulu ifanc.