Neidio i'r prif gynnwy

Rhoddodd Lesley Griffiths hwb mawr i dîm patrolio pysgodfeydd Cymru heddiw pan lansiodd gwch patrôl cyflym diweddaraf Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bu Ysgrifennydd y Cabinet ym Marina Conwy i enwi’r cwch newydd, FPV Catrin, yn swyddogol. Cafodd y cwch ei enwi er cof am Catrin Glyndŵr, menyw enwog yn hanes Cymru, a merch Tywysog olaf Cymru, Owain Glyndŵr.  

Bydd FPV Catrin yn gallu ymateb yn gyflym i sicrhau bod Cymru’n gallu parhau i orfodi’n effeithiol gyfreithiau’r môr a physgodfeydd. Bydd y cwch newydd yn falch o hwylio baner gorfodi’r Môr a Physgodfeydd Llywodraeth Cymru, a gynhyrchwyd yn Abertawe.

FPV Catrin yw’r cwch newydd cyntaf i’w adeiladu gan y cwmni adeiladu llongau, Marine Specialised Technology. Yn ystod yr ymweliad bu Ysgrifennydd y Cabinet yn cwrdd â’r staff a gyfrannodd at ddylunio ac adeiladu’r cwch.  

Y cyntaf o dri chwch patrôl newydd yw FPV Catrin. Mae FPV Rhodri Morgan ac FPV Lady Megan yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd yn Sir Benfro a disgwylir iddynt gael eu cludo i borthladdoedd Cymru nes ymlaen eleni. 

Cyn torri’r rhuban, cynnig champagne fel llwncdestun a rhoi dail gwyrdd ar y llong fel symbol o ddymuniad iddi ddychwelyd yn ddiogel, dywedodd Lesley Griffiths:

“Mae’n bleser mawr cael bod yma heddiw yng Nghonwy i ddathlu lansiad ein Cwch Patrolio Pysgodfeydd newydd, Catrin.  

“Bydd ein cwch newydd yn sicrhau y gallwn ni barhau i orfodi cyfreithiau’r môr a’r pysgodfeydd yn effeithiol. Bydd yn ein helpu i gynnal ein hymrwymiad i reoli’n stoc bysgod yn gynaliadwy, a diogelu diwydiant pysgota a chymunedau arfordirol Cymru yn ystod y blynyddoedd nesaf.

“Hoffwn i ddiolch i Marine Specialised Technology - heb ymrwymiad ac ymdrechion ei staff, ni fyddai’r diwrnod hwn wedi bod yn bosibl.” 

Dywedodd Philip Hilbert, Cyfarwyddwr Gwerthu Marine Specialised Technology:

“Mae’n fraint i’n cwmni fod yn rhan o’r prosiect nodedig hwn.” 

Hon yw’r enghraifft fwyaf hyd yma o Gwch Patrôl Cyflym yn ein cyfres, uchel ei pharch, o Gychod  Chwyddadwy â Gwaelod Caled ac iddynt gaban llywio cwbl gaeedig. Gyda’i hyd o 13m, dyma gwch mwyaf blaengar ein cyfres. 

“Mae cydweithio â Llywodraeth Cymru wedi bod yn brofiad gwych gan arwain at greu cwch rhagorol yr ydym yn falch iawn ohono fe. Bu ein perthynas yn bartneriaeth lle rydyn ni wedi cydweithio i gynhyrchu un o’r cychod mwyaf cynhwysfawr o’r maint hwn a’r math hwn.  O ganlyniad, mae’n cynnig arloesedd, technoleg a gallu heb eu hail, ac rydyn ni'n siŵr y bydd yn gwasanaethu’r Pysgodfeydd am lawer o flynyddoedd yn y dyfodol."