Neidio i'r prif gynnwy

Gallai Trafnidiaeth Cymru ddod yn gorff cenedlaethol a fydd yn gyfrifol am amrywiaeth ehangach o swyddogaethau trafnidiaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am y trafodaethau cadarnhaol gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â throsglwyddo pwerau ac asedau rheilffyrdd Cledrau Craidd y Cymoedd, bu Ysgrifennydd y Cabinet yn amlinellu sut y byddai'r datganoli pellach hwn yn rhoi inni fwy o'r arfau y mae eu hangen arnom i ddatblygu'r cynlluniau a fydd yn esgor ar y gwelliannau y mae dirfawr eu hangen ym mhob cwr o Gymru.

Bydd Symud Cymru Ymlaen, Ffyniant i Bawb, a'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn cael eu hatgyfnerthu wrth inni fynd ati i symbylu newidiadau sylweddol i'r ffordd yr ydym yn deall ac yn defnyddio trafnidiaeth yng Nghymru, ac yn buddsoddi ynddi. Am y tro cyntaf erioed, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i raglen pum mlynedd o gyllid cyfalaf ar gyfer trafnidiaeth, drwy Trafnidiaeth Cymru, ar gyfer gwaith cynnal a chadw a phrosiectau newydd ym maes trafnidiaeth.

Wrth siarad ag Aelodau'r Cynulliad, dywedodd Ken Skates:

"Dw i'n ymwybodol o'r angen i wneud yn siŵr bod Trafnidiaeth Cymru yn gallu cyflawni' n effeithiol ar gyfer Cymru gyfan, ac ar ôl fy nghyhoeddiad y mis diwethaf am y bwriad i sefydlu uned fusnes ar gyfer Trafnidiaeth Cymru yn y gogledd, dw i wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru gyflwyno cynigion ar gyfer swyddfa yn y Gogledd. Dw i'n disgwyl iddi fynd ati i wneud y gwaith hwnnw’n gyflym.

"O ran ein gwasanaeth rheilffyrdd newydd ar gyfer Cymru a'r Gororau, mae'n trafodaethau gyda Llywodraeth y DU wedi symud yn eu blaenau'n dda ers yr haf, ac erbyn hyn, mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a mi wedi cytuno ar y ffordd ymlaen ar nifer o faterion allweddol. Mae swyddogion yn dal i wneud cynnydd da ar faterion eraill. Byddai datganoli pellach yn rhoi inni'r arfau mae eu hangen arnon ni i ddatblygu'r cynlluniau a fydd yn esgor ar welliannau y mae dirfawr eu hangen ledled Cymru, fel y nodwyd yn astudiaeth Network Rail o lwybrau rheilffyrdd Cymru.

"Erbyn hyn, mae Trafnidiaeth Cymru yn dechrau ar gyfnod newydd o weithredu, gan gydweithio’n agos â Busnes Cymru i drefnu bod cyfleoedd ar gael i BBaChau lleol ac i fentrau yn y trydydd sector, drwy'r cynlluniau ar gyfer y gwasanaeth rheilffyrdd newydd a'r cynlluniau metro gwahanol. Yn wir, oherwydd y cynnydd y mae wedi'i wneud ar y gwaith hwn, ac ar yr amod bod Llywodraeth y DU yn gwneud ei rhan hi, dw i'n edrych ymlaen at gael mynd ati ym mis Mai i ddyfarnu'r contract cyntaf ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd i gael ei lunio yng Nghymru.

"Ar ôl llwyddiant y model a ddefnyddiwyd wrth gaffael Maes Awyr Caerdydd, ein nod yw sicrhau bod mwy a mwy o'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei redeg yn uniongyrchol gan Trafnidiaeth Cymru, ac yn dod yn eiddo iddi. Mae angen corff trafnidiaeth arnom sy'n rhoi blaenoriaeth i bobl ac i fusnesau ac sy'n dod o hyd i ffyrdd arloesol o greu system drafnidiaeth wirioneddol gydnerth a modern er budd pobl Cymru."

Mwy o wybodaeth: Trafnidiaeth Cymru (dolen allanol).