Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, wedi agor pentref Solar cyntaf Cymru yn swyddogol.
Bydd y clwstwr o chwech o gartrefi a elwir yn ‘Pentre Solar’ yn Glanrhyd, Gogledd Penfro, yn darparu cartrefi i denantiaid o restr aros tai cymdeithasol Cyngor Sir Benfro. Bydd pob tŷ yn defnyddio ynni yn effeithiol a chostau rhedeg isel, band eang cyflym iawn ac yn rhannu car trydan.
Agorodd y Prif Weinidog y ‘Ty Solar’ yn swyddogol yn 2013 a rhoddodd Llywodraeth Cymru grant o £141,000 i Western Solar Ltd i sefydlu ffatri yn lleol i adeiladu y tai oddi ar y safle a chreu deg o swyddi.
Yr egwyddor y tu ôl i’r fenter yw darparu tai fforddiadwy, sy’n defnyddio ynni yn effeithiol trwy ddatblygu cartrefi sy’n defnyddio cymaint â phosib o goed o Gymru, prynu o gadwyni cyflenwi lleol a defnyddio paneli solar i gael gwared ar filiau gwresogi a thrydan y trigolion bron â bod. Mae’r prosiect hefyd wedi cynnig prentisiaethau gwerthfawr a chyfleoedd am waith yn lleol.
Meddai Lesley Griffiths:
“Dwi’n falch o agor y datblygiad arloesol hwn yn swyddogol, sydd nid yn unig yn darparu’r tai y mae angen mawr amdanynt i bobl leol, ond sydd hefyd yn mynd i’r afael â nifer o faterion pwysig eraill fel defnyddio ynni yn effeithiol, tlodi tanwydd, datblygu sgiliau a defnyddio coed o Gymru.
“Dwi’n falch ein bod ni fel Llywodraeth yn gallu cefnogi’r datblygwr yn ariannol i sefydlu eu canolfan gynhyrchu leol. Dwi’n siŵr y bydd y tenantiaid yn hapus iawn gyda’u cartrefi newydd a’u biliau is.”
Ychwanegodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:
“Dyma enghraifft wych o fenter o’r sector preifat sydd wedi ei lansio gan gwmni bychan yng Ngorllewin Cymru. Mae eisoes yn creu cyfleoedd ar gyfer gwaith yn lleol ac yn helpu i ddatblygu sgiliau yn ogystal â manteision ehangach i’r economi trwy ddefnyddio cadwyni cyflenwi yng Nghymru a defnyddio cynnyrch lleol pan yn bosibl.
“Mae gennym sector adeiladu bywiog yng Nghymru, ac mae’r fenter hynod arloesol hon yn fodel newydd ar gyfer datblygu gwledig.”