Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths yn gobeithio y gall fachu'r diwydiant i gefnogi Blwyddyn Ryngwladol yr Eog i roi hwb i'r ymdrechion i ddiogelu'r pysgodyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Sefydliad Cadwraeth yr Eog (NASCO) wedi lansio ymgyrch i ddysgu pobl am y problemau y mae'r eog yn eu hwynebu oherwydd hinsawdd sy'n newid, a dangos manteision y pysgodyn i'r economi wledig. 

Mae'r ymgyrch yn cael ei lansio gyda gwefan i Gymru a Lloegr, www.yearofthesalmon.org, o dan ofal Canolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (CEFAS).  

Bydd gwybodaeth am yr eog sy'n berthnasol i Gymru a Lloegr ar y wefan a chaiff digwyddiadau o ddiddordeb i'r cyhoedd eu rhestru arni hefyd. 

Yr eog yw un o rywogaethau mwyaf eiconig Cymru a Lloegr ac mae'n fesur hollbwysig o iechyd ein dyfroedd, ond mae'r pysgod mewn sefyllfa enbyd, yn ein hafonydd a'n môr. 

Hynny am ei fod yn wynebu'r heriau a'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd a gweithgarwch dyn. 

Bydd Blwyddyn Ryngwladol yr Eog 2019 yn gweithio gyda'r cyhoedd, gwleidyddion a gwyddonwyr er mwyn tynnu sylw at y problemau hyn. 

Mae pysgodfeydd eogiaid a sewin ein hafonydd o bwys ariannol a diwylliannol mawr hefyd i economi wledig Cymru, gyda genweirio'n dod â £150 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn. 

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: 

"Rwy'n llwyr gefnogi Blwyddyn Ryngwladol yr Eog ac rwy'n gobeithio y galla i 'fachu'' cefnogaeth y diwydiant pysgota i'r ymdrechion i ddiogelu ac adfer yr eog. 

"Mae pysgota, boed ar lefel ddiwydiannol neu at ddibenion hamddena trwy drwyddedau gan glybiau lleol, yn rhan bwysig o'r economi wledig. 

"Mae'n bwysig bod y diwydiant yn rhoi ei gefnogaeth lawn i'r ymgyrch er mwyn inni allu diogelu cynaliadwyedd y bysgodfa eogiaid yng Nghymru a rhoi hwb pellach i economi Cymru."