Neidio i'r prif gynnwy

"Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu dyfodol cynaliadwy i Gymru, lle mae ein hafonydd yn parhau i'n maethu a'n hysbrydoli ni i gyd."

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyna oedd geiriau Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig cyn cynnal pumed uwchgynhadledd afonydd Llywodraeth Cymru.

Crëwyd yr uwchgynadleddau i ddod â phobl ynghyd i ganolbwyntio ar ansawdd dŵr afonydd Cymru ac adfer iechyd yr afonydd. 

Mae pumed uwchgynhadledd Llywodraeth Cymru, sy'n canolbwyntio ar ddefnydd tir gwledig, yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth y DU i gryfhau rheoleiddio cwmnïau dŵr er mwyn sicrhau y gallwn barhau i gyflawni ar gyfer yr amgylchedd. Croesawodd yr Ysgrifennydd y Cabinet y  ddeddfwriaeth, a dywedodd y gall Cymru nawr geisio 'ymgysylltu a chydweithio' i sicrhau bod ansawdd y dŵr ar draws Cymru a Lloegr, gan gynnwys afonydd trawsffiniol, o'r safon uchaf.

Wrth siarad cyn yr uwchgynhadledd sy'n cael ei chynnal am yr eildro yn Sioe Frenhinol Cymru, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: 

Mae ein hafonydd yn fwy na dyfrffyrdd yn unig; maent yn achubiaeth hanfodol, yn cynnal ein hecosystemau, ein cymunedau a'n heconomïau. Mae'r uwchgynhadledd hon yn garreg filltir bwysig yn ein taith barhaus i ddiogelu'r adnoddau gwerthfawr hyn.

Heddiw, yng nghyd-destun Sioe Frenhinol Cymru, mae'r sector amaethyddol o dan chwyddwydr. Rydym yn cydnabod yr heriau y mae'r sector yn eu hwynebu, ond hefyd y potensial aruthrol sydd ganddo ar gyfer creu newid cadarnhaol ac o ran  cydnabod fod angen dull cydgysylltiedig ar draws pob ardal er mwyn mynd i'r afael â materion ansawdd dŵr .

Ni fu ymwybyddiaeth y cyhoedd o gyflwr ein hafonydd erioed yn uwch, gyda chymunedau ledled Cymru yn mynegi awydd cryf i weld gwelliant gwirioneddol yn eu hamgylcheddau lleol.

Mae'r ymwybyddiaeth uwch hon yn tanlinellu pwysigrwydd ein hymdrechion a'r brys sydd ei angen o ran ein camau gweithredu . Mae galw'r cyhoedd am afonydd glân ac iach yn dyst i'r gwerth y maent yn ei roi ar yr adnoddau naturiol hyn, ac yn atgyfnerthu'r angen am weithredu rhagweithiol, parhaus a chydweithredol.

Mae ein hamcanion ar gyfer heddiw yn glir ac yn hanfodol: Yn gyntaf oll, mae angen i ni feithrin meddylfryd rhagweithiol tuag at stiwardiaeth afonydd.

Rhaid i ni symud y tu hwnt i ymateb i faterion wrth iddyn nhw godi, a chroesawu mentrau sy'n atal problemau cyn iddyn nhw ddechrau. Drwy ragweld a mynd i'r afael â heriau'n gynnar, gallwn sicrhau bod ein hafonydd yn parhau i fod yn fywiog ac yn iach am genedlaethau i ddod. 

Yn ail, fel yr amlygodd y Prif Weinidog, priodolir mwy na 90% o dir Cymru i weithgareddau gwledig.

Mae hyn yn rhoi'r sector amaethyddol mewn sefyllfa bwerus i wella ansawdd ein hamgylchedd afonydd.

Mae ffermwyr, tirfeddianwyr a busnesau amaethyddol ar flaen y gad yn yr ymdrech hon. Mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod y rôl hanfodol hon ac yn eu hannog a'u cefnogi i gymryd perchnogaeth o'u heffaith ar ein dyfrffyrdd.

Trwy arferion cynaliadwy ac atebion arloesol, gall y sector amaethyddol arwain y ffordd o ran amddiffyn a gwella ein hamgylcheddau afonydd. 

Yn olaf, rydym yma i sicrhau ymrwymiadau pendant ar sut y byddwn yn datblygu'r gwaith hwn dros y ddwy flynedd nesaf.

Rhaid inni adael yr uwchgynhadledd hon gyda gweledigaeth glir ac ymdeimlad o gyfrifoldeb a rennir.

Trwy weithio gyda'n gilydd a dwyn ein hunain i gyfrif, gallwn ddathlu cynnydd go iawn pan fyddwn yn ymgynnull eto yn yr hydref. 

Felly, gadewch i ni fanteisio ar y cyfle hwn i wneud gwahaniaeth go iawn.

Trwy groesawu dull rhagweithiol, annog y sector gwledig i gymryd arweiniad mwy rhagweithiol, a sicrhau ymrwymiadau ar gyfer gweithredu yn y dyfodol, gallwn greu etifeddiaeth o afonydd ffyniannus ac ecosystemau gwydn. Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu dyfodol cynaliadwy i Gymru, lle mae ein hafonydd yn parhau i'n maethu a'n hysbrydoli ni i gyd.