Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn Dubai yr wythnos hon i chwifio'r faner dros Gymru fel rhan o ddathliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2017.
Yn ogystal â nifer o ddigwyddiadau i hyrwyddo diwylliant Cymru ac i gynyddu cysylltiadau busnes rhwng Cymru, Dubai a'r Emiraethau Arabaidd Unedig ehangach, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymuno â 25 o gynhyrchwyr bwyd a diod gorau Cymru – y nifer uchaf erioed - yn Sioe Fasnach Gulfood. Mae’r sioe hon yn un o arddangosfeydd blynyddol mwyaf y byd ar gyfer bwyd a diod.
Mae’r Sioe Fasnach yn gyfle i hyrwyddo sector bwyd a diod Cymru ar y llwyfan rhyngwladol a helpu ymdrechion cynhyrchwyr Cymru ymdrechion i sefydlu cysylltiadau busnes newydd ac ehangu eu gwerthiannau mewn marchnadoedd newydd a allai fod yn broffidiol.
Yn ystod ei hymweliad, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi y bydd yn trefnu bod £2.4miliwn ar gael i sicrhau bod Cymru’n parhau i gael ei chynrychioli’n dda mewn digwyddiadau ac ymweliadau uchel eu proffil ym maes bwys a diod ledled y byd dros y ddwy flynedd nesaf, gan gynnig cyfleoedd pellach i arddangos Cymru a chynnyrch o’r radd flaenaf o Gymru.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Mae Dydd Gŵyl Dewi yn cynnig cyfle gwych i ddathlu ein pobl, ein hanes, ein diwylliant, ac, wrth gwrs, y dewis helaeth o fwyd a diod yr ydym yn ei gynhyrchu.
"Mae Cymru wedi gweld llwyddiant mawr yn y sector bwyd a diod. Rydym eisoes dros hanner ffordd tuag at gyflawni ein targed o dwf o 30% yn y sector erbyn 2020, gan gynhyrchu dros £260 miliwn o allforion. Mae bron 90% o'r rhain yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd. Dyma pam rydym yn arddel yn gryf, ar ran busnesau Cymru, fynediad llawn a dirwystr i’r Farchnad Sengl Ewropeaidd.
"Mae'n bwysig inni barhau’n genedl groesawgar ac allblyg. Mae’r heriau sy’n deillio o "Brexit caled" yn amlwg, ond mae’n galondid imi fod sector bwyd a diod Cymru mewn sefyllfa dda i fynd i'r afael â’r heriau sydd o’n blaenau ac i fanteisio ar gyfleoedd newydd.
"Mae arddangosfeydd rhyngwladol yn hanfodol wrth godi proffil rhyngwladol Cymru gan eu bod yn cynnig cyfle i fusnesau Cymru ffynnu trwy ymuno â marchnadoedd tramor newydd. Rwyf yn falch, felly, o gadarnhau ein bod yn buddsoddi £2.4m dros y ddwy flynedd nesaf i sicrhau presenoldeb cryf mewn cyfres o arddangosfeydd pwysig ac ymweliadau masnach ym maes bwyd a diod yn y DU a thramor gan gynnwys ein presenoldeb parhaus yn Gulfood."
Bydd Lesley Griffiths hefyd yn cefnogi dirprwyaeth fasnach ychwanegol o dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Mae’r ddirprwyaeth yn cynnwys deuddeg o fusnesau bach a chanolig o Gymru sy’n anelu at dyfu eu busnes yn Dubai a'r rhanbarth ehangach. Bydd y ddirprwyaeth yn ymweld â safle Expo’r Byd nesaf, a gynhelir yn Dubai yn 2020. Mae Expo 2020 yn cynnig cyfleoedd masnachol sylweddol i fusnesau o Gymru o bob maint ac mewn llawer o sectorau.
Caiff rhagoriaeth ddiwylliannol Cymru ei harddangos yn Dubai gan bresenoldeb cwmni Opera Cenedlaethol Cymru a fydd yn perfformio Madame Butterfly a La Bohème yn ystod pythefnos cyntaf mis Mawrth. Yn ogystal, ar noson Gŵyl Dewi ei hun, bydd Lesley Griffiths yn mynychu perfformiad arbennig gan driawd o berfformwyr Opera Cenedlaethol Cymru mewn derbyniad 'Cymru - Busnes a Diwylliant' yn Llysgenhadaeth Prydain yn Dubai. Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnig cyfle proffil uchel i ddangos cryfderau Cymru fel lle i astudio, gwneud busnes ac ymweld â hi.
Ar ddiwedd ei hymweliad, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad mewn dawns Gŵyl Dewi a drefnir gan y Clwb Cymreig lleol.