O ganlyniad i Ddeddf Tai (Cymru) 2014, rhaid i bob landlord preifat gofrestru eu hunain a'u heiddo â Rhentu Doeth Cymru erbyn 23 Tachwedd.
O ganlyniad i Ddeddf Tai (Cymru) 2014, rhaid i bob landlord preifat gofrestru eu hunain a'u heiddo â Rhentu Doeth Cymru erbyn 23 Tachwedd. Bydd y landlordiaid hynny sy'n ymwneud â gweithgareddau gosod a rheoli yn gorfod cael hyfforddiant hefyd. Nod Rhentu Doeth Cymru yw gwella safonau yn y sector rhentu preifat.
Mae'r ganolfan alwadau, sy'n cael ei rhedeg gan Gyngor Caerdydd fel yr awdurdod trwyddedu dynodedig ar gyfer Cymru, yn delio ag ymholiadau gan landlordiaid ac asiantau ac yn eu helpu i gofrestru a gwneud cais am drwydded.
Gwnaeth Ysgrifenydd y Cabinet hefyd lansio ymgyrch hysbysebu ac ar y cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth ymhlith landlordiaid o'r gofyniad cyfreithiol i gofrestru. Mae’r ymgyrch hefyd yn codi ymwybyddiaeth ymhlith tenantiaid o'u hawl i gael landlord neu asiant sydd wedi'i gofrestru a'i drwyddedu'n briodol. Bydd yr ymgyrch ar Facebook a Twitter, a bydd hysbysebion ar Google, Zoopla, Rightmove, Wales Online, Daily Post Online ac ar fysiau.
Dywedodd:
"Mae Rhentu Doeth Cymru yn gynllun nodedig a fydd yn codi safonau yn y sector rhentu preifat drwy ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid sy'n rheoli ac asiantau gael hyfforddiant er mwyn sicrhau eu bod yn deall eu cyfrifoldebau'n glir.
"Bydd yn helpu atal landlordiaid ac asiantau twyllodrus rhag rheoli a gosod eiddo.
"Bydd hyn yn helpu i warchod tenantiaid yn y sector rhentu preifat ac yn cefnogi landlordiaid ac asiantau da drwy eu helpu i wybod am eu cyfrifoldebau a’u rhwymedigaethau cyfreithiol, a gwella enw da'r sector cyfan.
"Bellach mae llai na pum mis cyn y dyddiad cau ar gyfer cofrestru ac felly rwy'n annog y rheini nad ydynt wedi cofrestru eto i beidio â’i adael tan y funud olaf i gydymffurfio â’r gyfraith. Mae cofrestru, pan gaiff ei wneud ar-lein, yn broses syml sydd ond yn cymryd 15 munud; ond gall gymryd hyd at 8 wythnos i brosesu cais am drwydded a dylech felly wneud hyn cyn gynted â phosibl."
Dywedodd y Cynghorydd Bob Derbyshire, Aelod o Gabinet Cyngor Dinas Caerdydd:
"Bydd landlordiaid ac asiantau wedi cael blwyddyn gyfan i sicrhau eu bod yn cofrestru ac yn cael hyfforddiant a thrwydded o dan y cynllun newydd. Er mai 23 Tachwedd yw’r dyddiad cau i gydymffurfio â’r gyfraith a bod hynny i weld yn bell yn gorwel, rydym yn awyddus i bwysleisio pa mor bwysig ydyw i beidio ag oedi gormod cyn gwneud cais am drwydded."