Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford heddiw yn amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn diogelu gwasanaethau cyhoeddus rhag effeithiau gwaethaf y cyni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cyllideb Cymru wedi gostwng £850m yn ystod y degawd diwethaf o ganlyniad i bolisi cyni Llywodraeth y DU, bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn dweud wrth y gynulleidfa yng Ngwesty Dewi Sant, Bae Caerdydd.

Bydd yn cael cwmni siaradwyr eraill sef Debbie Wilcox, arweinydd CLlLC; Kellie Beirne, cyfarwyddwr rhaglen Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, i drafod sut gall adnoddau cyhoeddus lwyddo i gael yr effaith fwyaf bosib ar gymunedau.

Dywedodd yr Athro Drakeford:

"Rwy'n ymwybodol bod pwysau cynyddol ar gyrff cyhoeddus i gyflawni mwy am lai o arian yn ystod y cyfnod hwn o gyni ac ansicrwydd aruthrol ynghylch sut y bydd y Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

"Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn cynyddu £365m i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn cwmpasu'r trefniadau cyflog a phensiwn newydd. Dyna’r newyddion da. Mae'n cyllid canlyniadol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus datganoledig eraill - i lywodraeth leol, gan gynnwys gofal cymdeithasol, i ysgolion, colegau a phrifysgolion, i drafnidiaeth a chymorth busnes - yn ddim ond £185m dros ddwy flynedd.

"Un o'r cyfleoedd sydd gennym i helpu i sicrhau tegwch yw'n pwerau trethu newydd. Mae cyflwyno trethi Cymreig cyntaf y cyfnod modern - y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi - wedi rhoi cyfle i ni ddisodli dwy o drethi'r Deyrnas Unedig gan roi rhai eraill yn eu lle sy'n fwy priodol ar gyfer amgylchiadau Cymru.

"Wrth i'r cyllidebau leihau, mae'r trethi datganoledig hyn yn helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

"Gyda'r dewisiadau anodd sydd o'n blaen, bydd Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn parhau i weithio i ddiogelu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a buddsoddi yn ein heconomi, gan geisio sicrhau mwy o degwch mewn cymdeithas."

Y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth yw unig gorff cyfrifyddiaeth proffesiynol y byd sy'n arbenigo mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae ganddo 14,000 o aelodau yn gweithio ledled y gwasanaethau cyhoeddus, mewn asiantaethau archwilio cenedlaethol, mewn cwmnïau cyfrifyddiaeth mawr ac mewn cyrff eraill lle mae angen rheoli arian cyhoeddus mewn ffordd effeithiol ac effeithlon.

Cynhelir cynhadledd flynyddol y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth heddiw yng Ngwesty Dewi Sant, Bae Caerdydd rhwng 10am a 5pm. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn annerch am 10:30am.