Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant yn ymweld ag Ysgol Gynradd Herbert Thompson yng Nghaerdydd i weld y gwaith sy’n cael ei wneud yno o dan faner Dechrau’n Deg ac i nodi Diwrnod Byd-eang y Plant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r diwrnod yn nodi i’r Cenhedloedd Unedig fabwysiadu Datganiad Hawliau Plant yn 1959 a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plant yn 1989.

Wrth ymweld â lleoliad gofal plant Tiny Thompsons ar safle’r ysgol dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Blant ei fod yn ymrwymedig i wireddu hawliau plant drwy sicrhau bod lle canolog yn cael ei roi iddynt yng ngwaith Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Carl Sargeant:

"Cymru oedd y wlad gyntaf i ymgorffori hawliau plant yn y gyfraith. Pryd bynnag mae’n rhaid i ni wneud penderfyniad, mae’n rhaid i ni ystyried yr effaith ar blant a phobl ifanc. Rydyn ni’n rhannu ymrwymiad uchelgeisiol ar gyfer creu dyfodol deinamig i bob un o’n pobl ifanc ni.

"Rydyn ni am greu Cymru’n wlad lle mae eu hawliau’n cael eu parchu, eu diogelu a’u cyflawni. Wrth ddathlu’r diwrnod arbennig yma mae’n bwysig ein bod yn dathlu plant a phobl ifanc ynghyd â’r unigolion a’r grwpiau hynny sy’n gweithio i ddiogelu eu hawliau."

Cafodd Ysgrifennydd y Cabinet weld hefyd gyfleusterau newydd Tiny Thompson yn rhan o’r rhaglen Dechrau’n Deg sy’n cynnig lle i 28 o blant yn y bore a’r prynhawn sef cyfanswm o 56 o blant ar gyfer y ddwy sesiwn.

Dywedodd Carl Sargeant:

"Mae Dechrau’n Deg yn parhau i wella bywydau plant a phobl ifanc sy’n byw yn rhan o’n cymunedau mwyaf difreintiedig ledled Cymru. Bydd awdurdodau lleol yn elwa ar y swm sydd dros £76 miliwn mewn refeniw yn ystod y flwyddyn ariannol yma.

"Mae’n dda gennyf weld bod y cyfleusterau newydd hyn yn cael effaith bositif ar fywydau’r teuluoedd sy’n byw yn yr ardal yma."