Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi dull gweithredu cenedlaethol ar waith ar gyfer gwasanaethau eirioli i blant a phobl ifanc.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyn trafod ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'r ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau eirioli, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod am sicrhau bod pob plentyn cymwys o bob ran o Gymru yn gallu cael cymorth gan eiriolwr proffesiynol annibynnol. Ychwanegodd y bydd pob Awdurdod Lleol yn rhoi hynny ar waith erbyn mis Mehefin 2017.

Dywedodd Carl Sargeant:

"Mae gwasanaethau eirioli annibynnol sy'n statudol yn hanfodol i amddiffyn a diogelu rhai o'r plant hynny sydd fwyaf agored i niwed yng Nghymru. 

“Allwn ni ddim cael plant mewn un ardal yn cael gwasanaeth gwahanol i blant eraill, felly heb os, rhaid bod pob awdurdod lleol yn ymrwymo i gymryd rhan. Rwy wedi ymrwymo i roi cyllid ychwanegol i dalu am gostau'r dull gweithredu cenedlaethol hwn. 

“Mae'r Awdurdodau Lleol wedi cadarnhau eu bod yn cefnogi'r gwaith hwn, ac rydyn ni'n monitro'r cynnydd i sicrhau y gallwn ni ei roi ar waith erbyn mis Mehefin 2017.”