Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, fod cyfres o benodiadau newydd yn mynd i gael eu gwneud i Gyngor Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd Kirsty Williams y bydd yr aelodau newydd a ganlyn yn cael eu penodi ac yn ymuno â’r Cyngor ar 1 Rhagfyr: Syr Keith Burnett, Helen Marshall, Sarah John a James Davies.  Bydd yr aelodau newydd eraill, sef Lesley Davies, Aaqil Ahmed, Christine Ennew a Robert Humphreys, yn cychwyn ar eu gwaith yn gynnar yn 2018 pan fydd tymor yr aelodau presennol yn dod i ben.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

“Rwy’n falch iawn o allu cyhoeddi’r penodiadau newydd hyn i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae’r penodiadau yn gamau pwysig o ran ein cynigion i ddiwygio’r sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol.

“Rydym wedi achub ar y cyfle i roi ffresni newydd yn yr aelodaeth. Bydd modd i’r aelodau gefnogi gwaith sy’n cael ei wneud gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a’r sector yn well wrth i ni fwrw ati gyda’r cynlluniau i sefydlu Comisiwn newydd, sef Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru.

“Roeddwn wedi fy mhlesio ag ansawdd yr ymgeiswyr ac yn falch iawn bod y broses wedi denu ymgeiswyr mor gryf ac amrywiol. Mae’n rhoi sicrwydd i ni ein bod yn mynd o’i chwmpas hi’r ffordd iawn o ran diwygio’r system addysg. Mae’n rhoi hyder i ni mai dyma sy’n iawn i Gymru. Mae’n profi bod pobl eisiau bod yn rhan o’n gweledigaeth.

“Rwy’n falch o allu penodi cystal ymgeiswyr o faes Addysg Bellach, Addysg Uwch, busnes, diwydiant a dysgu seiliedig ar waith. Dyma unigolion sydd wedi ennyn parch mawr yn eu meysydd. Rwy’n sicr y bydd eu cyfraniad yn y dyfodol yn un gwerthfawr, ac y byddant yn cael effaith gadarnhaol ar waith y Cyngor.

“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â’r aelodau newydd dros y blynyddoedd nesaf ac yn croesawu eu cyfraniad i’n gwaith ni.”