Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig, wedi cyflwyno gofynion bioddiogelwch mwy trylwyr ar gyfer dofednod ac adar caeth i’w gwarchod rhag y straen o ffliw adar sy’n lledaenu yn Ewrop

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021


Mae’r Parth Atal yn dweud ei bod yn ofynnol i geidwaid dofednod ac adar caeth eraill gadw eu hadar dan do, neu gymryd camau priodol i’w cadw ar wahân i adar gwyllt.

Mae achosion o Ffliw Adar Pathogenig Iawn (H5N8) wedi cael eu cadarnhau mewn dofednod ac adar gwyllt mewn sawl gwlad ledled Ewrop. Does dim achosion o H5N8 wedi’u canfod yn y DU ac mae’r gorchymyn hwn yn fesur rhagofalol er mwyn helpu i atal heintio posib gan adar gwyllt. Mae gorchmynion tebyg wedi cael eu rhoi yn eu lle yn yr Alban a Lloegr.

Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i fonitro’r sefyllfa’n fanwl ac mae wedi cynyddu ei gweithgarwch goruchwylio; mae ceidwaid yn cael eu hannog i gadarnhau mesurau bioddiogelwch eu heiddo.          

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

  • “Er nad oes unrhyw achosion o ffliw adar H5N8 wedi’u canfod yn y DU, rydw i wedi datgan Parth Atal am 30 diwrnod i leihau’r risg o haint gan adar gwyllt ac i roi amser i geidwaid dofednod ac adar caeth roi mesurau bioddiogelwch priodol yn eu lle.
  • “Mesur rhagofalol ydi hwn. Rydyn ni’n monitro’r sefyllfa ledled Ewrop ac wedi cynyddu’r oruchwyliaeth mewn ymateb i’r risg uwch.”

Dywedodd y Prif Swyddog Milfeddygol, Christianne Glossop:

  • “Rydyn ni’n cynghori ceidwaid dofednod i fod yn wyliadwrus am unrhyw arwyddion o afiechyd yn eu hadar ac unrhyw adar gwyllt, ac i geisio cyngor prydlon gan eu milfeddyg os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon.
  • “Hyd yn oed pan mae adar yn cael eu cadw dan do, mae risg fechan o haint o hyd, felly rhaid cynnal yr holl fesurau bioddiogelwch. Dylid dadheintio offer a dillad, dylid lleihau symudiad dofednod a dylid lleihau’r cyswllt rhwng dofednod ac adar gwyllt.”