Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths wedi cyhoeddi ymateb rhanbarthol newydd i gael gwared ar TB gwartheg yng Nghymru fel rhan o Raglen Dileu TB Gwartheg newydd Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O dan y rhaglen wedi’i hadfywio, caiff ardaloedd TB Isel, TB Canolradd a TB Uchel eu sefydlu ar draws Cymru ar sail nifer yr achosion o TB gwartheg. Bydd pob ardal yn cael ei ffordd arbennig ei hun o ddelio â TB, gan ddibynnu ar yr amodau a’r risgiau yn yr ardal honno. 

Mae Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar y mesurau ar gyfer diogelu Ardaloedd TB Isel a lleihau’r achosion o’r clefyd yn yr Ardaloedd Canolradd ac Uchel. 

Bydd y rhaglen adfywiedig yn adeiladu ar lwyddiant y Rhaglen Ddileu hyd yma ac yn edrych hefyd ar opsiynau i wneud rhai pethau’n wahanol. 

Bydd mesurau newydd eraill yn cryfhau’r mesurau rheoli gwartheg. O dan gynlluniau’r rhaglen, bydd cynlluniau gweithredu penodol yn cael eu llunio ar y cyd â ffermwyr, milfeddygon a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar gyfer buchesi sydd â TB cronig er mwyn clirio’r haint. 

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cydnabod hefyd gyfraniad anifeiliaid gwyllt at rai achosion o TB, ond mae’n glir bod Cymru am barhau i wrthod y math o raglen difa moch daear sy’n cael ei chynnal yn Lloegr lle mae ffermwyr yn rhydd i saethu moch daear heintiedig ac iach eu hunain. 

Yn hytrach, ystyrir ystod o opsiynau eraill, gan gynnwys dysgu o beilot yng Ngogledd Iwerddon lle cafodd moch daear eu dal mewn cewyll a lladd y rhai heintiedig.  Gan weithio gyda milfeddygon ac arbenigwyr bywyd gwyllt, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried a fyddai trywydd tebyg yn briodol mewn ardaloedd trwm eu TB lle ceir buchesi sydd â TB cronig a lle ceir cadarnhad gwrthrychol bod moch daear wedi’u heintio. 

Mae’r ymgynghoriad yn gofyn hefyd am farn am: 

  • Cyflwyno Cynllun Prynu Doeth gorfodol i helpu ffermwyr i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ffeithiau ynghylch iechyd y gwartheg y maen nhw am eu prynu; 
  • Gosod cosbau ar yr iawndal a delir ar gyfer gwartheg sy’n cael eu symud o fewn daliad aml-safle sydd o dan gyfyngiadau;
  • Gostwng y cap ar iawndal TB i £5,000.  Ni fydd hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o ffermwyr ond bydd yn arbed rhyw £300,000 y flwyddyn. 

Wrth annerch y Senedd, dywedodd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig: 

“Mae ein rhaglen bresennol ar gyfer dileu TB yng Nghymru yn dod i ben eleni, felly dyma’r amser i bwyso a mesur, ystyried ein llwyddiannau, dysgu gwersi ac ystyried adfywio’n ffordd o wneud pethau.  

“Ers inni gyflwyno’r rhaglen ddileu yn 2012, rydyn ni wedi gweld gostyngiad yn nifer yr achosion newydd o TB gwartheg mewn buchesi yng Nghymru ac mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod nifer yr achosion newydd o TB i lawr 19%. 

“Rwy’n awyddus i adeiladu ar ein llwyddiant a phrysuro’r gwelliannau.  Dyna pam rwyf am wella mesurau ar sail tystiolaeth. Rwy’n credu y bydd y Rhaglen Ddileu adfywiedig hon yn ein rhoi mewn sefyllfa gryfach i allu parhau i gyrchu at y nod o Gymru ddi-TB.” 

Wrth gyfeirio at gyflenwadau’r brechlyn moch daear, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet bod Llywodraeth Cymru’n parhau i fonitro’r sefyllfa ond na fyddai’r brechlyn BadgerBCG ar gael yn 2017.  Mae brechlynnau eraill yn dal i fod yn ddewis sy’n cael ei ystyried. 

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig: 

“Mae gan frechu ei ran o hyd yn ein hymdrechion i ddileu TB ond mae’n rhy gynnar i feddwl am frechu nes ein bod yn gwybod pryd y caiff y cyflenwad ei adfer.” 

Cafodd ymgynghoriad ar y Rhaglen Dileu TB Gwartheg newydd ei lansio heddiw ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi pwyso ar bawb sydd wedi dioddef oherwydd y clefyd neu sydd â diddordeb yn y rhaglen ystyried y cynigion ac anfon sylwadau i’n helpu i lunio’r cynlluniau. 

I weld yr ymgynghoriad, cliciwch yma.