Mae'r llwyddiant yn dilyn lansio ymgyrch newydd yn y DU ac yn rhyngwladol i hyrwyddo Cymru fel lle gwych i feddygon, gan gynnwys meddygon teulu, hyfforddi, gweithio a byw.
Ar ôl cynnal tri chylch recriwtio yn 2017, mae Deoniaeth Cymru bellach wedi cadarnhau penodiadau i 144 o leoedd i feddygon teulu dan hyfforddiant, gan ragori ar y 136 o leoedd a oedd ar gael yn wreiddiol. Mae hyn o gymharu â'r 121 o leoedd a gafodd eu llenwi yn 2016 – cynnydd o 19%.
Mae'r llwyddiant yn dilyn lansio ymgyrch newydd yn y DU ac yn rhyngwladol i hyrwyddo Cymru fel lle gwych i feddygon, gan gynnwys meddygon teulu, hyfforddi, gweithio a byw.
Mae'r ymgyrch yn cynnwys dau gynllun cymhelliant ariannol: cynllun wedi'i dargedu sy'n cynnig cymhelliant o £20,000 i’r rhai sy’n penderfynu hyfforddi fel meddyg teulu mewn ardaloedd penodedig lle bu'n anodd llenwi swyddi, a chynllun cyffredinol sy'n cynnig taliad untro i bawb sy'n hyfforddi i fod yn ymarferydd cyffredinol i dalu cost sefyll arholiadau terfynol unwaith.
Mae Ceredigion, y Gogledd-ddwyrain, y Gogledd-orllewin, a Sir Benfro, lle bu'n anodd recriwtio i swyddi yn y gorffennol, wedi elwa ar y cynllun cymhelliant sydd wedi ei dargedu, gan lenwi 100% o leoedd eleni.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:
“Dw i wrth fy modd ein bod wedi gallu llenwi pob un o'r lleoedd i feddygon teulu dan hyfforddiant yng Nghymru eleni, yn enwedig mewn rhai o'r ardaloedd gwledig lle bu'n anodd recriwtio yn y gorffennol. Mae'n dangos pa mor llwyddiannus fu ein hymgyrch farchnata, a'n bod wedi llwyddo i ddarbwyllo bod Cymru yn lle gwych iawn i fynd i hyfforddi, gweithio, a byw.
Mae nifer o fanteision i feddygon sy'n dod i Gymru, gan gynnwys Cytundeb Addysg i feddygon iau, y cyntaf o'i fath yn y DU. Mae’r cytundeb hwn yn gwarantu y bydd amser yn cael ei neilltuo ar gyfer addysg yn ystod wythnos waith meddygon dan hyfforddiant, er mwyn sicrhau eu bod i gyd yn cael manteisio ar ystod eang o gyfleoedd addysgol a fydd yn eu helpu i ddatblygu eu gyrfa.
Cafodd yr ymgyrch ei hymestyn yn ddiweddar er mwyn annog seiciatryddion dan hyfforddiant i ddod i Gymru. Mae recriwtio yn y maes hwn yn her ar draws y DU gyfan.
Roeddwn i'n falch o allu ail-lansio'r ymgyrch feddygol ym mis Hydref. Dw i hefyd wedi cymeradwyo parhau â'r cymelliadau ar gyfer meddygol teulu dan hyfforddiant. Dw i'n disgwyl i'r ymgyrch fynd o nerth i nerth gan ddenu mwy fyth o feddygon i Gymru.”