Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething wedi cyhoeddi heddiw pwy sy’n rhan o’r panel newydd a fydd yn cynnal adolygiad annibynnol o'r broses ar gyfer Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR) yng Nghymru.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae proses IPFR GIG Cymru yn cael ei defnyddio gan holl fyrddau iechyd y wlad wrth benderfynu p’un a ddylid cynnig triniaethau nad ydynt ar gael fel arfer i glaf unigol ai peidio.

  
Dywedodd Vaughan Gething: 

"Yn dilyn cwblhau adolygiad IPFR 2014 a rhoi ei argymhellion ar waith, cytunais ei bod yn bryd cynnal adolygiad annibynnol newydd o'r broses. Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar nifer y paneli a’r meini prawf yn ogystal ag ystyried barn y claf. 

"Mae'n bleser gen i gyhoeddi heddiw pwy fydd aelodau'r grŵp fydd yn cynnal yr adolygiad. Mae'r panel yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac yn cynnwys pobl sydd ag ystod eang o brofiad a gwybodaeth."

Mr. Andrew Blakeman fydd cadeirydd y panel adolygu. Mae Mr. Blakeman yn gyfrifydd siartredig ac mae wedi gweithio i BP am dros 20 mlynedd mewn swyddi ar lefel uwch ym maes cyllid. Bydd ei brofiad yn helpu i sicrhau bod y panel yn canolbwyntio ar y cwsmer.  

Bydd pum aelod ar y panel:

Mr. Irfon Williams
Yr Athro Peter Littlejohns
Yr Athro Phil Routledge OBE
Dr. Ben Thomas
Yr Athro Chris Newdick

Bydd yr adolygiad yn edrych ar dystiolaeth o arferion da presennol yng Nghymru, yn y DU ac mewn gwledydd eraill ar gyfer gwneud penderfyniadau ariannu triniaethau nad ydynt ar gael yn arferol i unigolion.  

Bydd y grŵp yn ystyried nifer y paneli IPFR yng Nghymru a'r meini prawf sy'n cael eu defnyddio i bennu amgylchiadau clinigol eithriadol. Byddant hefyd yn ystyried gwahanol opsiynau er mwyn gwella'r broses yn gyffredinol ynghyd â sut i gyfathrebu penderfyniadau â'r cleifion. Y canlyniad yn y pen draw fydd adroddiad gydag argymhellion ar gyfer y camau nesaf.  

Dywedodd Vaughan Gething: 

"Ynghyd â'r Gronfa Triniaethau Newydd, bydd yr adolygiad o'r broses IPFR yn arwain at newid mawr fydd yn galluogi cleifion Cymru i gael meddyginiaethau arloesol, yn ogystal â gwella'r gwasanaeth yn gyffredinol."


Mae'r panel wedi dechrau ar y gwaith a bydd y cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal ar 6 Hydref