Neidio i'r prif gynnwy

Gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg fydd y rhai cyntaf i gael manteisio ar y cyfle i holi Mr Gething am y gwasanaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg fydd y rhai cyntaf i gael manteisio ar y cyfle i holi Mr Gething am y gwasanaeth mewn digwyddiad Cwrdd â’r Cabinet.

Bydd y sesiwn holi ac ateb gyntaf i staff yn cael ei chynnal yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ac mae gwahoddiadau wedi cael eu hanfon at staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn yr ardal.

Dywedodd Mr Gething:

“Dw i wedi cael y pleser o gwrdd â nifer o weithwyr iechyd y rheng flaen yn ystod fy ymweliadau ledled Cymru a dw i eisiau datblygu’r trafodaethau ry’n ni wedi’u cael yn y digwyddiadau Cwrdd â’r Cabinet.

“Dw i eisiau rhoi’r cyfle i’r staff hyn fy nghyfarfod i, fy holi a thrafod y materion sy’n bwysig iddyn nhw o fewn y gwasanaeth iechyd.”
Mae Cwrdd â’r Cabinet yn adeiladu ar lwyddiant digwyddiadau Cyfarfod Carwyn, lle mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones yn cwrdd â phobl o bob cwr o Gymru ac yn gwrando ar eu sylwadau.