Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant, heddiw ei fod am gynnal ymgynghoriad ar leihau neu ddiddymu ffioedd comisiwn ar werthu cartrefi mewn parciau.
Mae’r ymgynghoriad yn dilyn yr adolygiad o’r sector a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Er i’r adolygiad gynnig sawl argymhelliad i wella safonau’r sector, prin chwarter o berchenogion parciau gyfrannodd gwybodaeth ariannol fanwl at yr adolygiad.
Wrth gyhoeddi’r ymgynghoriad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Roedd yr adolygiad yn llygad ei le wrth danlinellu cymhlethdod y mater, ac y gallai’r canlyniadau fod yn fawr. Rwyf felly wedi ystyried y mater yn ofalus iawn cyn penderfynu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.
“Rwyf wedi dod i’r casgliad y dylem archwilio ymhellach lefel y comisiwn y mae perchenogion safleoedd yn ei godi ond, o ystyried y sylwadau cryf iawn rwyf wedi’u cael ar y mater, rwyf o’r farn ar hyn o bryd y gallai fod yna sail i ostwng lefel y comisiwn neu hyd yn oed ei ddiddymu. Byddaf wrth reswm am roi ystyriaeth lawn i’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyn penderfynu’n derfynol ar y mater.
"Ymhlith yr opsiynau y byddaf yn eu hystyried fydd gostwng neu hyd yn oed ddiddymu gyfradd y comisiwn, yn ogystal wrth gwrs â chadw pethau fel maen nhw. Hoffwn felly wahodd perchenogion parciau i roi’r dystiolaeth imi a fydd yn eu barn nhw yn cyfiawnhau’r dewis olaf, ond rwy’n wir obeithio y bydd pob parti yn manteisio ar y cyfle a ddaw gyda’r ymgynghoriad hwn i gyflwyno mwy o wybodaeth a phwyso a mesur y dystiolaeth sydd ar gael.”
Byddwn yn dechrau cysylltu’n anffurfiol ar unwaith a chaiff yr ymgynghoriad ffurfiol ei gyhoeddi cyn gynted ag y medrir.