Bydd £17m ychwanegol o gyllid yr UE yn cael ei fuddsoddi i helpu dros 7,000 o bobl ifanc ledled y De-ddwyrain i wella eu cyfleoedd o ran gyrfa
Bydd Ysbrydoli i Gyflawni, dan arweiniad Cynghorau Blaenau Gwent a Chasnewydd, yn derbyn £15.9m yn ychwanegol o gyllid yr UE i weithio gydag ysgolion a cholegau i ddarparu cefnogaeth i bobl ifanc 11-19 oed sydd mewn perygl o droi cefn ar addysg a hyfforddiant.
Bydd Ysbrydoli i Gyflawni Cyngor Casnewydd yn derbyn £1.46m arall o gyllid yr UE i ddarparu gwasanaeth mentora unigol a chymorth gyda sgiliau sylfaenol a phersonol a llythrennedd digidol, fel bod modd i bobl ifanc 16-24 oed gael cymwysterau, mentro i addysg bellach a sicrhau swyddi.
Mae'r buddsoddiad newydd yn adeiladu ar yr £19m o gyllid yr UE a ddyfarnwyd yn flaenorol i'rcynlluniau, sydd eisoes wedi helpu dros 4,000 o bobl ifanc. Gyda’r cyllid ychwanegol, bydd y cynlluniau yn helpu 15,000 o unigolion eraill dros y pedair blynedd nesaf.
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford:
"Mae'n rhaid i ni helpu ein pobl ifanc i gael dyfodol mwy disglair a ffyniannus. Bydd y cyllid ychwanegol hwn gan yr Undeb Ewropeaidd yn helpu pobl ifanc i oresgyn unrhyw rwystrau rhag addysg, ac yn rhoi'r cymorth penodol sydd ei angen arnynt i gael swyddi.Bydd yn adeiladu ar lwyddiannau cyllid yr Undeb Ewropeaidd hyd yma, sydd eisoes wedi helpu bron i 40,000 o bobl ifanc ar draws Cymru i wella eu siawns o gael swyddi."
Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Aelod Gweithredol o Gyngor Blaenau Gwent â chyfrifoldeb dros Adfywio:
"Rydyn ni'n croesawu'r arian ychwanegol hwn ar gyfer y prosiect Ysbrydoli i Gyflawni a fydd yn helpu mwy o bobl ifanc ar draws y De-ddwyrain i gyflawni eu potensial.
"Rydyn ni wedi cael y fraint o weithio mewn partneriaeth â Chasnewydd ar y prosiect pwysig hwn ihelpu pobl ifanc yn yr ardal sy'n teimlo eu bod wedi ymddieithrio oddi wrth addysg brif ffrwd ac sy'n wynebu rhwystrau rhag dysgu. Rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau â'r gwaith pwysig iawn hwn fel bod modd i bob un o'n pobl ifanc, beth bynnag eu hamgylchiadau, gael cyfle i gael swyddi a byw bywydau economaidd weithgar."
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Casnewydd dros addysg a sgiliau, y Cynghorydd Gail Giles:
"Fel cyngor, rydyn ni eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol yn gostwng nifer y bobl ifanc blwyddyn 11 nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, o 4.7 y cant yn 2014 i 1.3 y cant yn 2017. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn golygu bod modd i ni helpu mwy fyth o bobl ifanc sydd mewn perygl o golli cyfleoedd am addysg neu hyfforddiant sy'n hanfodol i gyflawni eu potensial.