Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant, £422,334 o gyllid i gefnogi Undebau Credyd yng Nghymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2017-18.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid yn helpu i gyflawni ymrwymiadau sydd wedi’u nodi yn ein Strategaeth Cynhwysiant Ariannol. Nod y Strategaeth honno yw cynorthwyo aelodau ein cymdeithas sydd wedi’u hallgau fwyaf yn ariannol er mwyn iddynt allu cael mynediad i wasanaethau ariannol fforddiadwy.

Hefyd, bydd yn helpu undebau credyd i weithio tuag at sicrhau cynaliadwyedd annibynnol hirdymor ar gyfer y sector yng Nghymru; gan gefnogi twf yn nifer yr aelodau ledled Cymru a hyrwyddo cydweithio effeithiol rhwng undebau credyd Cymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:

“Gall undebau credyd helpu pobl sy’n methu cael mynediad at gynnyrch banciau arferol ac maent yn opsiwn gwell ar y cyfan na benthycwyr diwrnod cyflog. 

“Mae’r cyllid hwn yn datblygu’r rhaglen sydd wedi bod ar waith ers tair blynedd sydd wedi helpu i annog cynilo, cynnig benthyciadau hygyrch a gweithio yn ein cymunedau tlotaf i ddenu mwy o aelodau gan gynyddu’r benthyciadau a’r amrywiaeth o wasanaethau y maent yn eu cynnig i bob math o bobl.

“Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi undebau credyd i’r carn; fodd bynnag, rhaid i’r arian cyhoeddus y maent yn ei dderbyn gael mwy o effaith ac arwain at fodel cynaliadwy sy’n cyflawni newid cadarnhaol yn ein cymunedau. Rhaid i undebau credyd wneud mwy a dangos sut y bydd cyllid y flwyddyn ariannol nesaf yn cyfrannu at sicrhau cynaladwyedd a chyflawni ein hymrwymiadau Cynhwysiant Ariannol.”