Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, wedi croesawu’r ffaith bod gwaith diweddar i wella’r twnneli ar yr A55 wedi’i gwblhau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £42 miliwn er mwyn gwella diogelwch yn y twnneli a’u gwneud yn fwy cydnerth ac fel rhan o’r buddsoddiad hwnnw, bu Dawnus yn gwneud gwaith i wella’r goleuadau rhwng cyffyrdd 16 ac 17. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i bwysleisio bod rhagor o welliannau i’r A55 yn flaenoriaeth i’r adran.

Dywedodd Ken Skates:

“Mae’r gwaith adnewyddu ar y ffyrdd dynesu at y twnneli yn rhan o’n hymrwymiad i sicrhau bod pob un o’r tri thwnnel ar yr A55 yn cyrraedd y safonau sydd ohoni’r dyddiad hyn. Ers 2014, pan gafodd y twnneli eu gwella er mwyn cydymffurfio â chyfarwyddyd yr UE ar dwnneli, rydym wedi buddsoddi mewn systemau awyru newydd, systemau mecanyddol a thrydanol modern ac wedi gwella’r rhwystrau diogelwch. Mae gwaith wedi’i wneud hefyd i osod wyneb newydd ar y ffordd ac i wella arwyddion a seilwaith y twnnel, a bu’r canlyniadau’n rhai arbennig o dda.

“Ond nid dyna ddiwedd y gwaith o bell ffordd. Bydd proses debyg o gydgysylltu gwaith yn cael ei chynnal ar gyfer cam nesaf y gwaith rhwng Abergwyngregyn a Thai’r Meibion a Chyffyrdd 15 ac 16. Hefyd, mae rhagor o welliannau ar y gweill eisoes neu yn yr arfaeth ar gyfer trydedd bont dros y Fenai a gwelliannau i Goridor Glannau Dyfrdwy. 

“Dw i wedi dweud droeon bod angen i’r A55 wasanaethu cymunedau a busnesau ar draws y Gogledd a dw i’n hynod falch bod y gwelliannau wedi’u cwblhau ac y llwyddwyd i darfu cyn lleied â phosibl ar y cymunedau a’r busnesau hynny wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Byddwn yn mynd ati bellach i fwrw ymlaen â rhagor o welliannau, gan wneud y gwaith dros nos eto os bydd modd, gan anelu at gwblhau’r gwaith ar bob un o’r tri thwnnel yn 2017”.